Prif seremonïau'r wythnos
- Cyhoeddwyd
Cynhelir seremonïau i anrhydeddu prif enillwyr yr Eisteddfod ar lwyfan y Pafiliwn yn ystod wythnos y brifwyl.
Yr Archdderwydd, sef Geraint Lloyd Owen neu Geraint Llifon, sy'n arwain y prif seremonïau ac mae Gorsedd y Beirdd yn bresennol hefyd.
I lawer o Eisteddfodwyr, y prif seremonïau yw pinacl eu hwythnos gyda dyfalu mawr a fydd yna deilyngdod a phwy fydd yr enillydd.
Edrych yn ôl ar brif seremonïau Eisteddfod Genedlaethol 2016
Isod mae canllaw i seremonïau'r wythnos ac yma bydd rhestr o enillwyr Eisteddfod Genedlaethol Ynys Môn yn ymddangos.
Dydd Llun, 7 Awst
16.30 - Seremoni Coroni'r Bardd
Gwion Hallam
Gwion Hallam yn ennill Coron Eisteddfod Genedlaethol Môn
Tasg 2017: Pryddest ddigynghanedd heb fod yn fwy na 250 o linellau dan y teitl Trwy Ddrych.
Dydd Mawrth, 8 Awst
13.00 - Seremoni Cyflwyno Medal Syr TH Parry-Williams er clod
Dan Puw, Parc, Y Bala
Cyflwyno Medal Goffa Syr T H Parry-Williams i Dan Puw
17.00 - Seremoni Gwobr Goffa Daniel Owen
Neb yn deilwng
Neb yn deilwng o ennill Gwobr Goffa Daniel Owen eleni
Tasg 2017: Nofel heb ei chyhoeddi gyda llinyn storïol cryf a heb fod yn llai na 50,000 o eiriau.
Dydd Mercher, 9 Awst
16.30 - Seremoni Priflenor Rhyddiaith
Sonia Edwards
Sonia Edwards yn cipio'r Fedal Ryddiaith yn y Brifwyl
Tasg 2017: Cyfrol o ryddiaith greadigol heb fod dros 40,000 o eiriau: Cysgodion
Nos Fercher, 9 Awst
19.05 - Seremoni Tlws y Cerddor
Neb yn deilwng
Neb yn deilwng o Dlws y Cerddor yn yr Eisteddfod
Tasg 2017: Darn i fand pres yn seiliedig ar y thema 'Seryddiaeth' heb fod yn hwy na saith munud
Dydd Iau, 10 Awst
12.55 - Cyflwyno Enillydd Tlws Dysgwr y Flwyddyn
Enillydd 2017:Emma Chappell, Deiniolen
13.05 - Cyflwyno'r Fedal Wyddoniaeth a Thechnoleg Er Anrhydedd
I gydnabod ac anrhydeddu cyfraniad helaeth i'r defnydd o'r Gymraeg ym myd Gwyddoniaeth.
Enillydd 2017: Deri Tomos, Llanllechid, Bangor
15.15 - Seremoni'r Fedal Ddrama
Enillydd 2017: Heiddwen Tomos
Heiddwen Tomos yn ennill y Fedal Ddrama yn y Brifwyl
Tasg 2017: Cyfansoddi drama lwyfan heb unrhyw gyfyngiad o ran hyd.
Dydd Gwener, 11 Awst
16.30 - Seremoni Cadeirio'r Bardd
Enillydd 2017: Osian Rhys Jones
Osian Rhys Jones yn ennill Cadair y Brifwyl ym Môn
Tasg 2017: Awdl ar fwy nag un o'r mesurau traddodiadol, heb fod yn hwy na 250 o linellau: Arwr neu Arwres.