Prif seremonïau'r wythnos
- Cyhoeddwyd

Elinor Gwynn a gipiodd Goron hardd Eisteddfod Genedlaethol Sir Fynwy a'r Cyffiniau
Cynhelir seremonïau i anrhydeddu prif lenor a phrifeirdd yr Eisteddfod ar lwyfan y Pafiliwn yn ystod wythnos y brifwyl.
Yr Archdderwydd sy'n arwain y prif seremonïau ac mae Gorsedd y Beirdd yn bresennol hefyd. Eleni, fe fydd Archdderwydd newydd wrth y llyw sef Geraint Lloyd Owen, neu Geraint Llifon.
I lawer o Eisteddfodwyr, y prif seremonïau yw pinacl eu hwythnos gyda dyfalu mawr a fydd yna deilyngdod a phwy fydd yr enillydd.
Edrych yn ôl ar brif seremonïau Eisteddfod Genedlaethol 2015
Isod mae canllaw i seremonïau'r wythnos ac yma bydd rhestr o enillwyr Eisteddfod Sir Fynwy a'r Cyffiniau yn ymddangos.
Dydd Llun, Awst 1
16.30 - Seremoni Coroni'r Bardd
Tasg 2016: Casgliad o gerddi heb fod mewn cynghanedd gyflawn hyd at 250 o linellau: Llwybrau
Enillydd 2016: Elinor Gwynn
Elinor Gwynn yw enillydd Coron Eisteddfod Sir Fynwy a'r Cyffiniau
Dydd Mawrth, Awst 2
12.30 - Seremoni Cyflwyno Medal Syr TH Parry-Williams er clod
Enillydd 2016: Mair Carrington Roberts o Lanfairpwll, Ynys Môn
Seremoni Cyflwyno Medal Syr T H Parry-Williams
16.30 - Seremoni Gwobr Goffa Daniel Owen
Tasg 2016: Nofel heb ei chyhoeddi gyda llinyn storïol cryf a heb fod yn llai na 50,000 o eiriau.
Enillydd 2016: Guto Dafydd
Gwobr Goffa Daniel Owen / Daniel Owen Memorial Prize
Dydd Mercher, Awst 3
16.30 - Seremoni Priflenor Rhyddiaith
Tasg 2016: Cyfrol o ryddiaith greadigol heb fod dros 40,000 o eiriau.
Enillydd 2016: Eurig Salisbury
Seremoni Priflenor Rhyddiaith
Nos Fercher, Awst 3
18.40 - Seremoni Tlws y Cerddor
Tasg 2016: Pedair cân i gyfeiliant piano i lais isel.
Enillydd 2016: Gareth Olubunmi Hughes
Tlws y Cerddor / Musicians' Medal
Dydd Iau, Awst 4
12.10 - Cyflwyno Enillydd Tlws Dysgwr y Flwyddyn
Enillydd 2016: Hannah Roberts o Frynmawr
12.20 - Cyflwyno'r Fedal Wyddoniaeth a Thechnoleg Er Anrhydedd
I gydnabod ac anrhydeddu cyfraniad helaeth i'r defnydd o'r Gymraeg ym myd Gwyddoniaeth.
Enillydd 2016: Guto Roberts o Lantrisant
17.00 - Seremoni'r Fedal Ddrama
Tasg 2016: Cyfansoddi drama lwyfan heb unrhyw gyfyngiad o ran hyd.
Enillydd 2016: Hefin Robinson
Y Fedal Ddrama / Drama Medal Ceremony
Dydd Gwener, Awst 5
16.30 - Seremoni Cadeirio'r Bardd
Tasg 2016: Dilyniant o gerddi mewn cynghanedd gyflawn hyd at 250 o linellau: Ffiniau
Enillydd 2016: Aneirin Karadog
Aneirin Karadog, Prifardd Eisteddfod Sir Fynwy 2016