Naws y Nadolig wrth i Blas Newydd ar Ynys Môn gael ei atgyweirio
- Cyhoeddwyd
Bydd rhannau o blasty adnabyddus ger Llanfairpwll ar Ynys Môn - Plas Newydd - ynghau am gyfnod wrth iddo gael ei ailwampio am y tro cyntaf mewn 80 mlynedd.
Mae'n un o brosiectau mwyaf yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol ers blynyddoedd ac yn dipyn o her, yn ôl swyddogion.
Roedd yn rhaid i Ffair Fwyd a Chrefftau boblogaidd y plasty gael ei chanslo eleni achos y gwaith.
Mae disgwyl cwblhau'r gwaith ailwampio erbyn 2020.
'Milltiroedd o beipiau'
Mae maint yr her yn sylweddol, yn ôl y rheolwr cadwraeth, Richard Pennington.
"'Dan ni efo milltiroedd o beipiau a cheblau trydan i'w cymryd allan o'r adeilad," meddai.
"Mae'r pethau 'di bod mewn ers y 30au, mae'n rhaid ni gael nhw fyny i safonau modern.
"Maint yr adeilad ydy un o'r sialensiau - a hefyd, mae fama'n amgueddfa a thŷ felly mae'n rhaid i ni edrych ar ôl y casgliad a'r tŷ.
"Mae 'na lun gan Rex Whistler yn y 'stafell fwyta - ma' hwnnw'n un o'r pethau sy'n poeni ni fwya' - does 'na ddim ffordd hawdd o'i amddiffyn, felly 'dan ni 'di gorfod meddwl yn galed iawn am hynny."
Fe gafodd y murlun hwnnw ei gomisiynu'n arbennig adeg y gwaith atgyweirio diwetha' ym Mhlas Newydd yn yr 1930au.
Yn ôl Iwan Ellis-Roberts o'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, mae gan y darlun le pwysig yn hanes y plasty.
"Mae'n un o'r murluniau mwya' sydd 'na yn Ewrop, yn 58 troedfedd ar draws, a bob math o luniau o wahanol lefydd yn y byd - rhai yn llefydd go iawn a rhai wedi dod o ddychymyg yr arlunydd," meddai.
"Beth sy'n braf amdano ydy bod 'na straeon bach ym mhobman sy'n gysylltiedig â'r teulu Paget.
"Er enghraifft, mae 'na lun o'r seithfed Marcwis yn blentyn yn pysgota a wnaeth Whistler ddim rhoi gwialen iddo am nad oedd o fyth yn dal ddim byd beth bynnag!
"Mae'r llun yn llawn o jôcs bach teuluol fel 'na. Does gennym ni ddim arian i gomisiynu rhywbeth tebyg y tro yma.
"Mae arian y cyhoedd yn cael ei wario ar gadw llefydd fel hyn. Ond mae hefyd yn rhoi cyfle i ni edrych ar hanes y tŷ a dangos rhywbeth newydd i'r cyhoedd.
"'Dan ni wedi gorfod cau rhai 'stafelloedd i wneud y gwaith atgyweirio ond mae rhai'n dal ar agor a 'dan ni wedi ceisio creu rhyw naws teuluol a Nadoligaidd yn rheiny.
"Mae'n gyfle i ddangos sut fath o deulu oedd yn byw yma a sut Nadolig oedan nhw'n ei gael.
"Wnaethon ni siarad efo'r teulu i gael eu hatgofion nhw a be' sy'n neis i weld ydy bod 'na ddim llawer wedi newid.
"Fel roedden nhw'n wneud dros yr Ŵyl, 'da ni'n dal i chwarae gemau, yn agor cracers a dweud jôcs gwael!"
Oherwydd y gwaith, doedd 'na ddim Ffair Fwyd a Chrefftau ym Mhlas Newydd eleni - digwyddiad sydd wedi tyfu mewn poblogrwydd ers ei sefydlu wyth mlynedd yn ôl gyda 6,000 wedi ymweld y llynedd.
"Roedd o'n benderfyniad anodd iawn i ganslo'r Ffair eleni - mae'n rhywbeth 'da ni wedi gweithio'n galed i'w adeiladu dros y blynyddoedd," meddai Iwan Ellis-Roberts.
"Ond ar ddiwedd y dydd, y gwaith cadwraeth sy'n bwysig.
"Dyna pam bod pobl yn ymaelodi efo'r Ymddiriedolaeth, er mwyn cadw llefydd fel hyn yn y cyflwr gorau gallwn ni.
"Felly roedd yn rhaid gwneud y penderfyniad er mwyn cario 'mlaen efo'r gwaith yma."
Mae'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn hyderus y bydd yn werth yr aberth.
Gyda'r gwaith paratoi wedi dechrau, mae disgwyl i'r prosiect fod wedi'i gwblhau erbyn 2020 gan sicrhau dyfodol Plas Newydd am ddegawdau i ddod.