£160m ychwanegol ar iechyd a chynghorau yn y gyllideb
- Cyhoeddwyd
![Arian](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/17BCA/production/_99262279__98447286_gettyimages-664508932.jpg)
Bydd llywodraeth leol yn cael £20m ychwanegol yn 2018-19 a £40m yn 2019-20
Bydd £160m ychwanegol dros ddwy flynedd i iechyd ac awdurdodau lleol Cymru yng nghyllideb derfynol Llywodraeth Cymru, yn ôl yr ysgrifennydd cyllid.
Dywedodd Mark Drakeford bod arian ychwanegol i Gymru drwy Fformiwla Barnett wedi cynnydd mewn gwariant cyhoeddus yn Lloegr ar ôl cyllideb y canghellor yn San Steffan fis diwethaf.
Bydd Llywodraeth Cymru'n cyhoeddi manylion llawn y gyllideb derfynol ddydd Mawrth.
Fe fydd yr arian, yn ôl Mr Drakeford, yn "lliniaru rhywfaint o'r pwysau ar wasanaethau cyhoeddus rheng flaen".
Yn ôl llefarydd cyllid y Ceidwadwyr Cymreig, mae penderfyniadau Llywodraeth y DU wedi rhoi "hwb ariannol sylweddol i Gymru".
£60m i gynghorau
Roedd cynghorau'n wynebu toriad o rhwng 1.5% a 2% yn eu cyllid, ond mae'r cyhoeddiad yn golygu y bydd llywodraeth leol yn cael £20m ychwanegol yn 2018-19 a £40m yn 2019-20.
Mae hyn ar ben £3.3bn sydd wedi ei neilltuo ar gyfer cynghorau yn y gyllideb ddrafft ym mis Hydref, oedd yn amlinellu cynlluniau gwariant gwerth mwy na £15bn.
Mae arweinydd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, Debbie Wilcox, wedi rhybuddio yn y gorffennol bod hi'n amhosib i gynghorau barhau i wneud "y toriadau caletaf" a chynnal yr un lefel o wasanaethau.
![Iechyd](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/12602/production/_99266257_de27-1.jpg)
Yn y cyhoeddiad, mae addewid o £100m ychwanegol i iechyd dros ddwy flynedd
Bydd y Gwasanaeth Iechyd Gwladol yng Nghymru yn cael £50m yn ychwanegol y flwyddyn dros y ddwy flynedd nesaf i gefnogi gwasanaethau, gofal sylfaenol a'r Gronfa Gofal Integredig sy'n helpu pobl i gadw eu hannibyniaeth ac aros yn eu cartrefi eu hunain.
"Rwy'n falch o allu darparu arian ychwanegol ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus - meysydd ry'n ni'n gwybod sydd angen cefnogaeth ychwanegol," meddai Mr Drakeford.
"Bydd y cyllid yma yn helpu lliniaru rhywfaint o'r pwysau ar wasanaethau cyhoeddus rheng flaen, sydd wedi cael trafferth ymdopi o ganlyniad i doriadau i'n cyllideb bob blwyddyn ers 2010-11 diolch i raglen lymder Llywodraeth y DU."
Dywedodd y Ceidwadwyr Cymreig bod cyllideb y canghellor yn San Steffan wedi rhoi "hwb ariannol sylweddol i Gymru" a'u bod yn falch bod y llywodraeth ym Mae Caerdydd "wedi gwrando ar ein galwadau i fuddsoddi'r arian ychwanegol mewn gwasanaethau rheng flaen allweddol".
Ond ychwanegodd Nick Ramsay AC mai'r manylion sydd bwysicaf ac y byddai'n "edrych yn ofalus i ble mae'r arian yn cael ei ddosbarthu, yn enwedig ar ôl bron i ddau ddegawd o gyllidebau gan y Blaid Lafur sydd wedi methu cynyddu ffyniant a gwella gwasanaethau cyhoeddus".
![Mark Drakeford](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/9552/production/_99262283__99199534_de27-1.jpg)
Bydd rhagor o gyhoeddiadau am arian ar gyfer prosiectau cyfalaf yn y gwanwyn, medd Mark Drakeford
Dywedodd Mr Drakeford hefyd y bydd penderfyniadau ynghylch arian ychwanegol ar gyfer prosiectau cyfalaf yn cael eu cyhoeddi yn y gwanwyn.
Cafodd newid ei gyhoeddi ym mis Rhagfyr i'r trothwy ar gyfer dechrau talu'r Dreth Gweithrediadau Tir sy'n dod i rym yng Nghymru fis Ebrill nesaf yn lle'r dreth stamp ar brynu tai.
Bydd y dreth bellach yn berthnasol i dai sy'n costio o leiaf £180,000 yn hytrach na £150,000.
Cyhoeddodd y Prif Weinidog, Carwyn Jones, ddydd Sul bod £10m ychwanegol yn cael ei roi i fynd i'r afael â digartrefedd ymhlith pobl ifanc.
Bydd pleidlais ar y Gyllideb derfynol yn y Senedd ym mis Ionawr, ond mae'r weinyddiaeth Lafur eisoes wedi cael addewid y bydd Plaid Cymru yn cefnogi eu cynlluniau gwariant.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd10 Hydref 2017