Penodi Canghellor newydd Prifysgol Abertawe

  • Cyhoeddwyd
Yr Athro Fonesig Jean ThomasFfynhonnell y llun, Prifysgol Abertawe

Mae Prifysgol Abertawe wedi penodi Canghellor newydd yn dilyn marwolaeth cyn-Brif Weinidog Cymru y llynedd.

Fe fydd yr Athro Fonesig Jean Thomas yn olynu Rhodri Morgan yn y rôl.

Roedd Mr Morgan wedi gwasanaethu fel Canghellor y Brifysgol rhwng 2011 a 2017.

Mae'r Fonesig Thomas yn Athro Emeritws yn adran Biocemeg Prifysgol Caergrawnt, yn gyn-feistr yng Ngholeg y Santes Catharine yn y brifysgol honno, ac yn Llywydd presennol y Gymdeithas Fywydeg Frenhinol.

Yn gyn-fyfyriwr ym Mhrifysgol Abertawe, fe raddiodd gyda gradd dosbarth cyntaf mewn Cemeg yn 1964 cyn cwblhau doethuriaeth yn 1967.

Fe dderbyniodd anrhydedd yr OBE yn 1993 am ei gwasanaeth i fyd gwyddoniaeth, a'i hurddo'n Fonesig yn 2005 am ei chyfraniad i ddatblygiadau yn y maes biocemeg.

Dywedodd y Fonesig Thomas: "Pan wnes i raddio am y tro cyntaf o Brifysgol Abertawe sawl blwyddyn yn ôl, nid oeddwn fyth yn credu y buaswn yn dychwelyd yma fel Canghellor.

"Mae'r Brifysgol yn parhau i ddatblygu a thyfu, ac rwy'n edrych ymlaen yn arw at fod yn rhan o hynny."