Brechu wedi achos o Hepatitis A mewn ysgol
- Cyhoeddwyd
Fe fydd tua 180 o bobl sydd â chysylltiad ag ysgol uwchradd yn Sir Ddinbych yn cael cynnig brechiad Hepatitis A ar ôl i ddisgybl gael ei heintio.
Mae'r brechiad yn cael ei gynnig i ddisgyblion blwyddyn 7 Ysgol Brynhyfryd, Rhuthun ynghŷd â staff dysgu a glanhau.
Fe fydd y sesiwn yn cael ei chynnal yn yr ysgol nos Lun 22 Ionawr gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru ac adran iechyd yr amgylchedd Cyngor Sir Ddinbych yn ymchwilio i ffynhonnell yr haint.
Monitro'r sefyllfa
Dywedodd pennaeth yr ysgol, Geraint Parry: "Rydym wedi bod yn gweithio'n agos gyda gweithwyr iechyd proffesiynol i gymryd y camau angenrheidiol i sicrhau iechyd a llesiant ein holl staff a'n disgyblion.
"Rydym yn monitro'r sefyllfa yn fanwl a byddwn yn rhoi gwybod i bawb am unrhyw ddatblygiadau."
Yn ôl Iechyd Cyhoeddus Cymru mae cynnydd sylweddol wedi bod yn nifer yr achosion o Hepatitis A ar draws gogledd Cymru ers dechrau 2017.
Mae'r brechiad yn cael ei gynnig rhag ofn, gan fod yr haint yn un sy'n lledu'n hawdd rhwng plant a phobl ifanc sydd yn aml ddim yn arddangos unrhyw symptomau.
Symptomau
Er bod symptomau'r haint yn "annymunol", yn ôl Dr Christopher Johnson, ymgynghorydd diogelu iechyd gyda Iechyd Cyhoeddus Cymru, dydi'r salwch "ddim yn para'n hir fel arfer" a phrin yw'r achosion lle mae'r salwch yn ddifrifol.
Dywedodd mai "salwch ysgafn" mae plant yn ei gael aml neu dydyn nhw ddim yn cael symptomau o gwbwl.
Gall symptomau gynnwys rhai tebyg i'r ffliw "fel blinder, poenau cyffredinol, pen tost a thwymyn, yn ogystal â cholli archwaeth, cyfog neu chwydu, poen yn y bol, y clefyd melyn, troeth tywyll iawn a chroen coslyd."
Fe danlinellodd pwysigrwydd golchi dwylo wrth fwyta a pharatoi bwyd ac wrth fynd i'r tŷ bach er mwyn osgoi lledu'r haint.
Dydy brechiad Hepatitis A ddim yn cael ei gynnig i bawb gan y GIG am fod achosion o'r haint mor brin yn y DU.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd14 Rhagfyr 2017
- Cyhoeddwyd8 Tachwedd 2017
- Cyhoeddwyd6 Ionawr 2018