Diffyg cynnydd ar glinig trawsryweddol yn 'annerbyniol'

  • Cyhoeddwyd
baner enfys LGBTFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae grŵp o feddygon teulu wedi rhybuddio fod y diffyg cynnydd wrth sefydlu clinig arbenigol i bobl trawsryweddol yng Nghymru yn "annerbyniol".

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi cynlluniau i agor meddygfa hunaniaeth rywedd yng Nghaerdydd - y cyntaf o'i fath yn y DU.

Ond dywedodd Cymdeithas Feddygol Prydain (BMA), sydd yn cynrychioli meddygon teulu, nad oes ganddyn nhw hyder y bydd gwasanaeth digonol yn cael ei ddarparu yng Nghymru.

Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud eu bod wedi'i ymrwymo i'r clinig newydd.

'Colli hyder'

Ar hyn o bryd mae cleifion trawsryweddol yng Nghymru yn cael eu cyfeirio at glinig yn Llundain, gan ychwanegu at yr amser a'r gost o gael gofal iechyd.

Ym mis Awst fe gyhoeddodd yr Ysgrifennydd Iechyd, Vaughan Gething gynlluniau i agor meddygfa debyg yng Nghaerdydd, gyda chefnogaeth gan feddygon teulu oedd yn arbenigo mewn gofal rhyw gan gynnwys therapi cyfnewid hormonau, i sicrhau triniaeth i gleifion yn agosach at adref.

Ond mae Pwyllgor Meddygon Teulu Cymreig y BMA wedi cyhuddo'r rheiny sydd yn gyfrifol am y cynllun o "ymddygiad annerbyniol" tuag atyn nhw.

Yn ôl cadeirydd y pwyllgor, Dr Charlotte Jones roedd ymddygiad swyddogion a byrddau iechyd wedi arwain at "golli hyder" y byddai gwasanaeth digonol yn cael ei ddarparu.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Dr Charlotte Jones wedi cyhuddo'r rheiny sydd yn gyfrifol am y clinig o lusgo'u traed

Dywedodd wrth gynhadledd yng Nghaer nad oedd pethau wedi datblygu rhyw lawer er bod y pwyllgor wedi canfod meddygon teulu fyddai â diddordeb gweithio yn y clinig.

Ychwanegodd fod swyddogion o Fwrdd Cyfarwyddwyr Iechyd Meddwl y llywodraeth a Phwyllgor Gwasanaethau Arbenigol Iechyd Cymru, sydd yn gyfrifol am yr uned, wedi canslo cyfarfodydd gyda nhw.

"Er gwaethaf pwysau parhaol gan y pwyllgor, does dim cynnydd wedi bod, ac yn waeth na hynny mae diffyg tryloywder a chymylu parhaol ynglŷn ag a oes chwant go iawn am ddarparu'r gwasanaeth," meddai.

Ychwanegodd: "Mae'r rheiny sydd yn gyfrifol am ddarparu'r gwasanaeth sylwi fod gwasanaeth israddol i'r gymuned drawsryweddol yn annerbyniol, a ddim yn unol â beth gafodd ei gytuno gyda'r Ysgrifennydd Cabinet, na beth sy'n cael ei ddisgwyl gan y gymuned a'r proffesiwn meddygon teulu.

"Mae'r gymuned drawsryweddol a'r proffesiwn meddygon teulu yn haeddu gwell na hyn a fyddan nhw ddim yn derbyn unrhyw llai."

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: ""Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwell gwasanaethau gofal iechyd ar gyfer y gymuned drawsryweddol yng Nghymru.

"Rydym yn disgwyl i bawb sy'n ymwneud â chyflwyno'r gwasanaeth newydd hwn gydweithio i sicrhau ei fod yn llwyddiant."

Mae BBC Cymru wedi cysylltu â Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro, sydd yn gyfrifol am ddarparu'r clinig.