Siop deuluol yn Llambed yn cau ei drysau wedi 60 mlynedd
- Cyhoeddwyd
Mae'n ddiwedd cyfnod mewn tref yng Ngheredigion wrth i siop deuluol gau ei drysau ddydd Sadwrn wedi 60 mlynedd o wasanaethu ei chwsmeriaid.
Ers degawdau mae'r ddau frawd Alun ac Eifion Williams wedi rhedeg siop J.H. Williams a'i Feibion Crown Stores ar stryd fawr Llanbedr Pont Steffan.
Bechgyn ysgol oedd y ddau pan brynodd eu rhieni John Howell (Jac) a Margaret Williams fusnes oedd eisoes ar y safle, ac mae'r teulu'n gyfrifol amdano ers 1 Ionawr 1958.
Dywedodd Alun Williams bod yr oes wedi newid i siopau bach annibynnol, a'u bod wedi cau'r busnes yn raddol dros nifer o flynyddoedd.
"Pan gymrodd Mam a Dad yn busnes drosto, £212 oedd gwerth y stoc, ac fe allwch chi ddychmygu faint oeddech chi'n ei gael am hynny bryd hynny," dywedodd.
"Yn yr oes heddi, dydw i ddim yn meddwl fydde neb yn fodlon buddsoddi mewn stoc fel 'na nawr."
Yn y blynyddoedd cynnar roedd y brodyr yn helpu yn y siop ar ôl bod yn yr ysgol.
Tan 2015 roedd dwy ran i'r busnes, gydag Alun Williams yn gwerthu llestri, fel roedd ei fam yn arfer gwneud, a'i frawd, fel eu tad gynt, yn gwerthu ffrwythau a llysiau.
Am gyfnod hefyd roedden nhw'n gwerthu papur wal a phaent, ar ôl ymestyn y siop yn y 1970au o ganlyniad prynu'r adeilad drws nesaf.
Cau'n raddol
Am 27 mlynedd, roedd ganddyn nhw ail siop yn gwerthu llestri yng Nghaerfyrddin. Fe wnaeth honno gau yn 2011.
Yn anterth y busnes, roedd yn cyflogi tua 20 o bobl.
Ond wrth feddwl ymlaen llaw am ymddeol, mae'r brodyr wedi cau'r busnes yn raddol, gan stopio gwerthu llestri a nwyddau cartref yn gyntaf yn 2015.
"Mae pethau wedi newid dros y blynyddoedd," dywedodd Mr Williams.
Pryder am gau gwesty hanesyddol yn Llanbedr Pont Steffan
Diwedd cyfnod i siop recordiau Hag's yn Llambed
"O'dd marchnad fawr i lestri. Roedd pobol yn dod o bell i'w brynu - o du hwnt i Glawdd Offa.
Cystadleuaeth ffyrnig
"O'dd casglu llestri o safon pan y'ch chi'n priodi ac yn y blaen yn beth mawr. Erbyn heddi, petha cheap and cheerful ma' pobol mo'yn yn aml.
"Dydyn nhw ddim mo'yn ornaments heddi. Ma pobol yn fwy minimalistic."
Dywedodd bod y gystadleuaeth yn "lot mwy ffyrnig" i siopau bach annibynnol erbyn hyn.
"Dwi'n credu bod unrhyw un sy'n cymryd busnes ymlaen y dyddie hyn yn haeddu medal.
"Fe allen ni fod wedi mynd i lawr y llwybr o werthu ar-lein, ond mae'n anodd gwerthu llestri ar-lein.
"Ma' pobl yn eu dychwelyd ac yn pacio nhw'n flêr ac maen nhw'n malu yn y post."
Fe fydd yr adeilad yn mynd ar werth yn fuan.
"Ni wedi cael oes yma, ac wedi bod yn weddol llwyddiannus.
"Ni'n barod i gau ac wedi paratoi i gau."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd22 Rhagfyr 2017
- Cyhoeddwyd4 Gorffennaf 2016