Asesiad Brexit y llywodraeth yn dangos llai o dwf i Gymru
- Cyhoeddwyd
Mae asesiad Llywodraeth y DU o effaith Brexit yn awgrymu y gallai economi Cymru fod ar ei cholled unwaith y bydd Prydain yn gadael yr Undeb Ewropeaidd.
Cafodd yr asesiad ei baratoi gan swyddogion yn Whitehall ar gyfer Adran Gadael yr UE, yn edrych ar dair senario posib ar gyfer y trafodaethau.
Mae'r ffigyrau, sydd bellach wedi'u gweld gan ASau, yn awgrymu y gallai twf economaidd fod 1.5% yn is yng Nghymru hyd yn oed os yw'r DU yn aros yn y farchnad sengl a'r undeb dollau.
Petai'r DU yn cael cytundeb masnach rydd â'r UE ond yn gadael y farchnad sengl byddai twf yr economi 5.5% yn is na'r disgwyl yng Nghymru, a heb gytundeb byddai'r twf 9.5% yn is.
'Cytundeb arbennig'
Ar draws y DU, y ffigyrau ar gyfer y tair senario oedd 2% yn is, 5% yn is ac 8% yn is.
Dyw'r asesiadau ddim o reidrwydd yn dweud mai o dyna fyddai maint yr economi yn lleihau, dim ond y byddai'n tyfu'n arafach na'r disgwyl.
Does dim un o'r tri senario ble mae disgwyl i economi unrhyw ran o'r DU fod yn well nag y byddai petai'r wlad yn aros yn yr UE.
Cafodd y wybodaeth ei ryddhau i wefan Buzzfeed yn wreiddiol, a hynny wedi i ASau orfodi'r llywodraeth i ddatgelu manylion yr asesiadau.
Dywedodd Llywodraeth y DU nad oedd yr asesiad wedi edrych ar yr opsiwn maen nhw'n ei ffafrio - cytundeb arbennig gyda'r DU.
Cymru:
Marchnad Sengl: -1.5%
Masnach Rydd: -5.5%
Dim cytundeb: -9.5%
Y DU:
Marchnad Sengl: -2%
Masnach Rydd: -5%
Dim cytundeb: -8%
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd5 Chwefror 2018
- Cyhoeddwyd4 Chwefror 2018
- Cyhoeddwyd6 Tachwedd 2017