'Dal i deimlo poen' wedi marwolaeth Carl Sargeant
- Cyhoeddwyd
Mae Aelod Cynulliad newydd Alun a Glannau Dyfrdwy, Jack Sargeant, yn dweud bod y gymuned yn dal i deimlo llawer o boen ar ôl i'w dad Carl Sargeant gael ei ganfod yn farw ddyddiau ar ôl cael ei ddiswyddo o'r cabinet.
Mewn cyfweliad ar raglen Sunday Supplement BBC Cymru ychwanegodd Jack Sargeant ei fod am barhau â gwaith ei dad ond ei fod hefyd am dorri ei gwys ei hun fel gwleidydd, a'i fod yn edrych ymlaen at yr her.
Cafodd Carl Sargeant ei ddiswyddo fel gweinidog ym mis Tachwedd yn dilyn honiadau o ymddygiad amhriodol.
Fe wadodd y cyhuddiadau yn ei erbyn, a bydd ymchwiliad i'r modd y cafodd ei ddiswyddo yn cael ei gynnal yn ddiweddarach eleni.
'Tensiynau'
Dywedodd Mr Sargeant bod dau reswm iddo sefyll yn yr isetholiad.
"Rwyf am barhau â'r gwaith caled a'r gwaddol y gwnaeth fy nhad ei adael ar ei ôl a'r gwasanaeth a roddodd i gymuned Alun a Glannau Dyfrdwy.
"Ydw, rwyf am barhau â'i waith, ond rwyf am dorri cwys fy hun gan ddefnyddio fy sgiliau i."
Yna ail, dywedodd ei fod hefyd am gefnogi'r bobl yna oedd wedi bod yn gymaint o gefn iddo ef a'i deulu "yn ystod amser caletaf ein bywydau".
Dywedodd fod yr amgylchiadau yn rhai anodd a thrasig iddo ef a'i deulu.
"Ond mae'n rhaid cario 'mlaen, ac fe fyddwn yn gwneud hynny, hwn yw'r cam cyntaf."
Yn y cyfweliad mae'n cyfadde' bod yna "densiynau ar adegau" o fewn y Blaid Lafur ehangach ag ef yn ystod ymgyrch yr isetholiad.
Ni wnaeth y prif weinidog Carwyn Jones gymryd rhan yn yr ymgyrchu yn etholaeth Alun a Glannau Dyfrdwy.
Wrth gael ei holi a oedd yna groeso i Mr Jones yn etholaeth Alun a Glannau Dyfradwy yn ystod yr isetholiad, dywedodd Mr Sargeant: "Mae'r amgylchiadau yn anodd ar y funud. Mae yna ymchwiliadau ar y gweill.
"Roeddem am redeg ymgyrch leol. Yn sicr fe wnaethom lwyddo i wneud hynny.
"Mae'n amser caled ar y funud. Roedd yna lot o bobl yn y gymuned yn teimlo poen."
Fe wnaeth Jack Sargeant gynyddu mwyafrif Llafur i dros 6,000.
Dywedodd Mr Jones fod "amser yn rhan o'r broblem" wrth esbonio pam na fu'n ymgyrchu.
"Fe wnaeth y tîm weithio yn galed iawn ac mae hynny i'w weld yn y canlyniad - y canlyniad gorau i Lafur Cymru mewn unrhyw etholiad Cynulliad yn Alun a Glannau Dyfrdwy, ac mae hynny'n glod i'r bobl wnaeth weithio mor galed," meddai.