Tawel Fan: Teuluoedd yn ddig am oedi adroddiad methiannau

  • Cyhoeddwyd
tawel fan

Mae dicter yn dilyn y newyddion y bydd oedi cyn cyhoeddi adroddiad ar fethiannau difrifol mewn ward iechyd meddwl.

Cafodd ward Tawel Fan yn Ysbyty Glan Clwyd yn Sir Ddinbych ei chau yn dilyn canfyddiadau fod "camdriniaeth sefydliadol" wedi digwydd yn yr uned.

Fe gafodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ei rhoi mewn mesurau arbennig o ganlyniad i'r sgandal yn 2013.

Mae bellach wedi dod i'r amlwg fod yr adroddiad newydd ar y methiannau yn wynebu oedi pellach, gan fod yr awdur, yr arbenigwr iechyd Donna Ockenden wedi bod yn sâl.

Dim dyddiad newydd

Roedd disgwyl i'r adroddiad gael ei gyhoeddi ar 8 Mawrth, ond mewn cyfarfod ddydd Llun, cadarnhaodd y bwrdd iechyd na fyddai hyn yn digwydd ac ni allent roi dyddiad cyhoeddi newydd.

Mae dau adroddiad ar wahân wedi eu comisiynu. Fe fydd adroddiad Ockenden yn edrych a oedd methiannau llywodraethu wedi cyfrannu at fethiannau'r uned, ac roedd yr ail adroddiad gan y Gwasanaeth Cynghori Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn edrych ar yr effaith ar gleifion unigol.

Dywedodd aelod o deulu un o gleifion Tawel Fan wrth BBC Cymru: "Tyda ni dal ddim yn gwybod pryd y byddwn yn cael yr adroddiadau. Rydym yn hynod o anhapus - rydym wedi bod yn aros am bedair blynedd a hanner ar gyfer hyn."

Dywedodd y teuluoedd fod y bwrdd iechyd wedi addo adrodd diweddariad iddynt erbyn diwedd yr wythnos.

Fe ddaeth sgandal Tawel Fan i'r amlwg ar ôl i honiadau o gamdriniaeth cleifion gael eu hymchwilio gan Donna Ockenden, a gadarnhaodd fod honiadau gan berthnasau, fod cleifion yn cael eu cadw fel anifeiliaid mewn sŵ.