Ryan Giggs yn cadw Osian Roberts yn rhan o staff Cymru

  • Cyhoeddwyd
Osian RobertsFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,

Mae Osian Roberts hefyd yn gyfarwyddwr technegol Cymdeithas Bêl-droed Cymru

Mae Ryan Giggs wedi penderfynu cadw Osian Roberts fel aelod o'i staff cynorthwyol gyda'r tîm pêl-droed cenedlaethol.

Roedd Roberts yn is-reolwr i Chris Coleman yn Euro 2016 ac yn ystod ymgyrch aflwyddiannus y garfan i geisio cyrraedd Cwpan y Byd 2018.

Mae disgwyl hefyd i Giggs ychwanegu Albert Stuivenberg o'r Iseldiroedd at ei dîm cynorthwyol.

Cafodd Giggs ei benodi'n rheolwr newydd Cymru fis Ionawr, a bydd gêm gyntaf ei deyrnasiad yn cael ei chwarae yn erbyn China ym mis Mawrth.

Dau yn gadael

Fe wnaeth Giggs a Stuivenberg, sydd yn dod o'r Iseldiroedd, gydweithio gyda'i gilydd pan oedd y ddau ohonyn nhw'n hyfforddwyr yn Manchester United dan Louis van Gaal.

Mae'r cyn-chwaraewr, wnaeth ennill 64 cap dros Gymru, eisoes wedi cadarnhau y bydd Tony Roberts yn aros fel hyfforddwyr y golwyr.

Ond mae'r pennaeth perfformiad dan Coleman, Ryland Morgans, wedi gadael ei rôl gyda disgwyl y bydd Tony Strudwick yn dod i mewn yn ei le.

Mae'r seicolegydd Ian Mitchell hefyd wedi gadael er mwyn cymryd swydd gyda thîm pêl-droed Lloegr.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

China fydd gwrthwynebwyr nesaf Cymru wedi'r gêm gyfartal yn erbyn Panama ddechrau Tachwedd - un olaf Coleman wrth y llyw

Bydd gemau cyntaf Giggs fel rheolwr yn dod yng Nghwpan China yn Nanning ym mis Mawrth, ble byddan nhw'n wynebu'r tîm cartref yn ogystal ag Uruguay neu'r Weriniaeth Tsiec.

Fe fydd Cymru hefyd yn herio Mecsico mewn gêm gyfeillgar yn California ym mis Mai, wrth iddyn nhw baratoi i wynebu Denmarc a Gweriniaeth Iwerddon yng Nghynghrair y Cenhedloedd yn yr hydref.

Mae Giggs wedi arwyddo cytundeb pedair blynedd yn y swydd, fydd yn cynnwys ymgyrchoedd rhagbrofol Euro 2020 a Chwpan y Byd 2022.