Bale ond dim Ramsey yng ngharfan Cymru ar gyfer China

  • Cyhoeddwyd
gareth bale ac aaron ramseyFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae Gareth Bale wedi'i gynnwys yn y garfan, ond bydd Aaron Ramsey'n absennol

Mae Aaron Ramsey wedi'i adael allan o garfan gyntaf Ryan Giggs ar gyfer Cwpan China yr wythnos nesaf, ond mae Gareth Bale wedi'i gynnwys.

Dywedodd Giggs y byddai Ramsey'n chwarae dros Arsenal nos Iau, ond bod angen triniaeth arno wedi hynny.

Fe wnaeth y rheolwr newydd enwi carfan o 26 chwaraewr ar gyfer y daith i'r Dwyrain Pell, ble byddan nhw'n wynebu China ac un ai Uruguay neu'r Weriniaeth Tsiec.

Yn eu plith mae Ethan Ampadu a Ben Woodburn, dau o'r chwaraewyr ifanc disglair gafodd eu capiau cyntaf tua diwedd cyfnod Chris Coleman wrth y llyw.

Cadw'r capten

Mae Harry Wilson hefyd wedi ei gynnwys yn y garfan, ac fe allai chwaraewr ieuengaf erioed Cymru ychwanegu at yr un cap a enillodd yn 2013.

Ond fydd Danny Ward ddim yn teithio oherwydd problemau gyda'i fisa, ac mae Dave Edwards wedi ymddeol o bêl-droed rhyngwladol.

Mae Emyr Huws, Jonny Williams a Hal Robson-Kanu'n absennol, ac mae David Brooks wedi'i gynnwys yn y garfan dan-21.

Ffynhonnell y llun, David Rawcliffe
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Ryan Giggs ei benodi'n rheolwr newydd Cymru ym mis Ionawr

Wrth gyhoeddi'r garfan, dywedodd Giggs ei fod wedi dewis carfan gyda'r bwriad o "fynd i ennill Cwpan China", ac y byddai'n "dwrnamaint cystadleuol iawn".

Ychwanegodd y byddai amddiffynnwr Everton, Ashley Williams yn parhau fel capten y tîm, a bod Paul Dummett wedi dewis peidio ymuno â'r garfan ar hyn o bryd.

Y gemau yn Nanning, ble mae'r gystadleuaeth gyfeillgar yn cael ei chynnal, fydd rhai cyntaf Giggs wrth y llyw ers iddo gael ei benodi ym mis Ionawr.

Y gred yw y bydd Cymru'n derbyn ffi uwch am gymryd rhan os yw sêr fel Bale a Ramsey'n ymddangos.

Mae cyn-chwaraewr Manchester United, wnaeth ennill 64 cap dros Gymru, wedi penderfynu cadw Osian Roberts yn rhan o'i staff cynorthwyol.

Dadansoddiad gohebydd chwaraeon BBC Cymru, Owain Llyr:

"Mae hi'n garfan gyffrous, sydd â chyfuniad o chwaraewyr profiadol, a rhai sydd heb chwarae ar y llwyfan rhyngwladol yn y gorffennol.

"Mae Connor Roberts wedi creu argraff arna i bob tro mae o wedi chwarae i Abertawe'r tymor yma, tra bod Chris Mepham wedi bod yn chwarae'n gyson i Brentford yn y Bencampwriaeth.

"Braf gweld Osian Roberts a Tony Roberts yn parhau yn rhan o'r tîm hyfforddi - o leia' mae hyn yn cynnig cysondeb o ddyddiau Chris Coleman.

"Ond mae'n beth da hefyd fod Giggs wedi penodi Albert Stuivenberg a Tony Strudwick, dau mae o'n eu 'nabod yn dda o'i gyfnod efo Manchester United. Mi fydd y ddau'n cynnig syniadau gwahanol ar y maes ymarfer, a dyna beth sydd ei angen yn dilyn y siom o beidio â chyrraedd Cwpan y Byd.

"Ac er nad ydy o wedi bod yn chwarae ar ei orau i Everton y tymor yma, dim syndod fod Ashley Williams yn parhau yn gapten. Mae o'n arweinydd o fri ac yn uchel ei barch o fewn yr ystafell newid.

"Er ei fod yn 33 oed bellach, mae ganddo fo dal ran bwysig i'w chwarae ar y cae, ac yn natblygiad chwaraewyr ifanc fel Ethan Ampadu."

Y garfan yn llawn:

Golwyr: Wayne Hennessey (Crystal Palace), Chris Maxwell (Preston North End), Michael Crowe (Ipswich);

Amddiffynwyr: Ashley Williams (Everton), James Chester (Aston Villa), Ben Davies (Spurs), Chris Gunter (Reading), Neil Taylor (Aston Villa), Declan John (Rangers), Ethan Ampadu (Chelsea), Connor Roberts (Abertawe), Chris Mepham (Brentford), Tom Lockyer (Bristol Rovers);

Canol cae: Joe Allen (Stoke City), Andy King (Abertawe, ar fenthyg o Gaerlŷr), Joe Ledley (Derby County), Ryan Hedges (Barnsley), Lee Evans (Sheffield United), Marley Watkins (Norwich City);

Ymosod: Tom Lawrence (Derby County), Ben Woodburn (Lerpwl), Sam Vokes (Burnley), Gareth Bale (Real Madrid), Harry Wilson (Hull City, ar fenthyg o Lerpwl), Billy Bodin (Preston North End), Tom Bradshaw (Barnsley).