Cymru i chwarae Uruguay yn rownd derfynol Cwpan China

  • Cyhoeddwyd
Gareth BaleFfynhonnell y llun, Reuters
Disgrifiad o’r llun,

Llwyddodd Gareth Bale i ddod y prif sgoriwr yn hanes tîm pêl-droed Cymru ddydd Iau

Fe fydd tîm pêl-droed Cymru yn wynebu Uruguay yn rownd derfynol Cwpan China ddydd Llun.

Fe enillodd Cymru o 6-0 yn erbyn China yn y rownd gyntaf ddydd Iau, mewn gêm lle dorrodd Gareth Bale record Ian Rush, a dod yn brif sgoriwr dros ei wlad.

Dyma fydd ail gêm Cymru ers i'r rheolwr newydd, Ryan Giggs, fod wrth y llyw.

Cystadleuaeth wadd yw Cwpan China rhwng pedwar tîm rhyngwladol a dyma'r eildro i'r gystadleuaeth gael ei chynnal, gyda Chile yn ennill Cwpan China 2017.

Fe sicrhaodd Uruguay eu lle yn y rownd derfynol ar ôl curo'r Weriniaeth Tsiec ddydd Gwener.

Mae gan Uruguay nifer o sêr byd-enwog, fel Luis Suarez o Barcelona, Edinson Cavani o Paris Saint-Germain a'r capten Diego Godín o Atlético Madrid.

Fe fydd y rownd derfynol yn cael ei chwarae yn ninas Nanning yn ne China - y gic gyntaf am 12:35 ac fe fydd hi'n bosib ei dilyn ar wefan Cymru Fyw.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Luis Suarez, yr ymosodwr sydd wedi sgorio 49 o weithiau dros Uruguay mewn 95 gêm