Cwpan y Byd: 'Gêm enfawr' i Ferched Cymru yn erbyn Lloegr

  • Cyhoeddwyd
Capten Cymru Jess FishlockFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,

Mae Jess Fishlock wedi ennill 108 o gapiau rhyngwladol i Gymru hyd yma

Bydd tîm merched Cymru yn herio Lloegr nos Wener gan obeithio rhoi hwb i'w gobeithion o gyrraedd Cwpan y Byd.

Mae Cymru ar frig Grŵp A ar hyn o bryd, pwynt o flaen Lloegr - sydd wedi chwarae un gêm yn llai.

Ar ôl eu dechreuad gorau i ymgyrch ragbrofol, mae Cymru mewn sefyllfa gref wrth geisio hawlio lle yn y gystadleuaeth am y tro cyntaf.

Peidio mynd yn rhy emosiynol oedd neges Jess Fishlock i'w chyd-chwaraewyr cyn y gêm yn Stadiwm St Mary's yn Southampton.

Ar hyn o bryd mae Cymru yn safle 34 yn netholion y byd, tra bod Lloegr, fydd â Phil Neville yn rheoli am y tro cyntaf mewn gêm ragbrofol, yn ail.

Allan o'r pedair gêm ragbrofol hyd yma, mae Cymru wedi ennill tair, tra bod un wedi gorffen yn gyfartal.

Gyda dim ond pedair gêm yn weddill, dydy tîm Jane Ludlow dal heb ildio gôl.

Disgrifiad,

Dywedodd Natasha Harding ei bod yn gobeithio ysbrydoli gydag ymgyrch Cwpan y Byd

Mae Fishlock yn gobeithio na fydd chwaraewyr Cymru yn cael eu dychryn gan yr achlysur, gyda thorf fawr i'w disgwyl yn y stadiwm.

"Mae'r gêm yn enfawr i ni ond ddim yn ddiwedd y byd," meddai.

"Mae pedair gêm ar ôl i ni gyrraedd lle rydyn ni eisiau ei gyrraedd ac os ganolbwyntiwn ni'n ormod ar y gêm yma, gall effeithio ar yr hyn sydd angen ei wneud nesaf.

"Dwi'n gobeithio na fyddwn ni'n rhy emosiynol, gall hynny effeithio ar yr hyn yr ydym ni'n gobeithio ei gyflawni."

Roedd Natasha Harding hefyd yn trafod gyda'r wasg yn ystod paratoadau'r tîm ar gyfer gêm fawr.

Dywedodd y byddai cyrraedd Cwpan y Byd yn "enfawr" ac yn gyfle i ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf o ferched i chwarae pêl-droed.