Undeb Unite yn codi gwaharddiad tri aelod

  • Cyhoeddwyd
Carolyn Harris a Julie Morgan
Disgrifiad o’r llun,

Mae Carolyn Harris (chwith) a Julie Morgan yn cystadlu i fod yn ddirprwy arweinydd newydd Llafur Cymru

Mae tri aelod o undeb llafur mwyaf y DU wedi cael clywed nad ydynt bellach wedi eu gwahardd ar ôl anghydfod dros etholiad dirprwy arweinyddiaeth Llafur Cymru.

Mae pennaeth Unite y DU ymyrryd yn yr anghydfod, a ddaeth wedi i'r aelodau ymddangos mewn fideo yn cefnogi'r ymgeisydd Julie Morgan ar gyfer swydd dirprwy bennaeth Llafur Cymru.

Yn swyddogol, mae undeb Unite Cymru yn cefnogi ei gwrthwynebydd, Carolyn Harris.

Ar ôl i'r fideo gael ei gyhoeddi ar y cyfryngau cymdeithasol, fe wnaet ysgrifennydd Unite Cymru, Andy Richards ysgrifennu at y tri aelod, gan ddweud ei fod am atal eu cymwysterau undeb ar ôl derbyn cwynion amdanynt.

Fe syfrdanodd y penderfyniad rhai aelodau Unite, gan gynnwys yr AC Llafur, Jenny Rathbone a gyhuddodd yr undeb yng Nghymru o geisio gyrru eu haelodau i lawr yr un ffordd drwy gefnogi Ms Harris.

Fodd bynnag, mae ysgrifennydd cyffredinol Unite y DU, Len McCluskey, wedi ysgrifennu at y tri aelod, gan ddweud: "Rwyf wedi adolygu'r sefyllfa ynglŷn â'ch gwaharddiadau.

"Rwy'n deall yr amgylchiadau sy'n gysylltiedig â gweithredoedd yr Ysgrifennydd Rhanbarthol, a'r sefyllfa anodd y mae hyn wedi ei roi ynddo, er mwyn ceisio amddiffyn undod Unite Cymru.

"Rwyf, fodd bynnag, wedi penderfynu codi eich gwaharddiad ar unwaith, gyda'r gobaith y bydd hyn yn eich cynorthwyo i wella unrhyw rwystrau sydd wedi dod i'r amlwg."