'Lluniau anweddus o athrawon gan ddisgyblion ar gynnydd'

  • Cyhoeddwyd
Ffonau symudolFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae camddefnydd disgyblion o gyfryngau cymdeithasol yn erbyn staff ysgolion "ar gynnydd", ac erbyn hyn yn "gogwyddo i'r ochr rywiol", medd aelod o undeb athrawon.

Dywedodd Siôn Amlyn, aelod o bwyllgor gwaith gogledd Cymru o'r NASUWT, wrth BBC Cymru Fyw bod natur y camddefnydd wedi newid.

"Ynghynt ella fysa chi'n dweud bod ganddo chi, ac mae'n dal i ddigwydd wrth gwrs, ddisgyblion ysgol yn 'sgwennu pethau ffiaidd neu ryw sylwadau annifyr am staff neu'n ffilmio athrawon yn dysgu neu rywbeth fel 'na.

"Bellach... mae ganddo' ni straeon am ddisgyblion yn trio tynnu lluniau fyny sgertiau athrawesau, y math yna o beth lle mae o yn gogwyddo i'r ochr rywiol."

Dywedodd hefyd ei fod wedi gweld effaith negyddol arholiadau ar ddisgyblion.

'Angen ymateb cadarn'

Daw ei sylwadau wrth i'r undeb gynnal ei chynhadledd flynyddol yn Wrecsam dros y penwythnos.

Hon yw'r gynhadledd gyntaf o dan gyfansoddiad newydd yr undeb fydd yn ehangu rôl a statws NASUWT Cymru o fewn yr undeb yn Brydeinig.

Disgrifiad o’r llun,

Dyw'r pwysau mae rhai disgyblion yn eu teimlo yn ystod cyfnod arholiadau ddim yn deg meddai Siôn Amlyn

Mae camddefnydd cyfryngau cymdeithasol yn un o'r cynigion fydd yn cael ei drafod gan yr aelodau.

Geiriad y cynnig yw bod yr undeb yn parhau i "gefnogi cymdeithasau lleol a'r cynrychiolwyr mewn ysgolion... i herio'r arferion annerbyniol hyn yn gryf".

Er bod mwy o ysgolion meddai yn dechrau mabwysiadu polisïau i ddisgyblu disgyblion, mae'n dweud bod angen iddyn nhw ac awdurdodau fod yn "fwy cadarn yn sut maen nhw'n ymateb i unrhyw fath o ddigwyddiadau fel hyn".

Plant yn 'dioddef' oherwydd arholiadau

Cynnydd arall mae Mr Amlyn wedi ei weld o'i brofiad o fel athro yw effaith negyddol arholiadau ar les pobl ifanc.

Mae digon o gefnogaeth yn yr ysgolion meddai, ond mae straen ar ddisgyblion heddiw: "Mae 'na bwysau yn dod o'r top ar yr ysgolion, sy'n pasio'r pwysau ymlaen i lawr ar y disgyblion, a dydy hynny ddim yn sefyllfa dda o gwbl.

"Dydy o ddim yn gynaliadwy a dydy o ddim yn deg ar ein plant ni heb os nag oni bai.

"Mae o'n rhywbeth sydd yn sicr angen ei newid yn fy marn i yn sydyn iawn, achos mae 'na lot o blant allan yn fanna yn dioddef yn feddyliol oherwydd arholiadau."

Yr wythnos yma daeth y newyddion bod Ysgol Gymunedol Penweddig yn Aberystwyth wedi methu â phenodi pennaeth newydd, er bod y swydd wedi cael ei hysbysebu ddwywaith.

Ond dywedodd Mr Amlyn nad yw'r broblem yn waeth mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg, a bod penodi staff yn sialens yn gyffredinol am fod mwy o gyfrifoldebau yn cael eu rhoi ar ysgwyddau athrawon.

"Mae'n broblem sydd ella yn amlygu ei hun fwy mewn ysgolion Cymraeg eu cyfrwng oherwydd mae'r farchnad os liciwch chi yn llai yn naturiol.

"Ond mae o'n broblem drwyddi draw o mhrofiad i ar draws y wlad."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Yn raddol bydd y cwricwlwm newydd yn cael ei gyflwyno gan ddechrau yn 2022

Yn 2022 mae disgwyl i gwricwlwm newydd gael ei gyflwyno ar draws Cymru.

Y bwriad yw rhoi mwy o hyblygrwydd i ysgolion, a'r un pwyslais ar sgiliau cyfrifiadurol a sydd ar rifedd a llythrennedd.

Y bwriad gwreiddiol oedd ei gyflwyno flwyddyn yn gynt ond dyw'r oedi ddim yn pryderu'r aelod o'r pwyllgor gwaith.

"Dwi'n meddwl y mwyaf o amser maen nhw yn ei wario yn gwneud yn siŵr bod o'n iawn ac yn addas yna po orau ydy hynny..."

Ond mae eisiau iddo gael ei "ddarparu, ei gyflwyno a'i ddatblygu gan athrawon i athrawon".

Ymhlith y cynigion eraill y bydd yr undeb yn eu trafod fydd llwyth gwaith athrawon rhan amser a bwlch cyllido ysgolion.