'Modd gwireddu morlyn Abertawe,' medd arweinydd cyngor
- Cyhoeddwyd

Cefnogwyr morlyn Bae Abertawe yn hyderus y bydd yn cael ei godi
Gallai'r cynlluniau ar gyfer morlyn Abertawe gael eu gwireddu heb gefnogaeth Llywodraeth y DU, yn ôl arweinydd Cyngor Abertawe, Rob Stewart.
Ddydd Llun, fe ddywedodd Llywodraeth y DU na fydden nhw'n cefnogi cynlluniau 1.3bn cwmni Tidal Lagoon Power (TLP) am eu bod yn rhy ddrud.
Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud nad oes ganddyn nhw'r "pwerau na'r adnoddau i sicrhau fod y cynllun yn mynd yn ei flaen."
Ond mae arweinydd Cyngor Abertawe, Rob Stewart, wedi dweud wrth raglen Sunday Politics Wales fod yna gynlluniau eraill ar y gweill a'i fod wedi bod yn trafod gyda Llywodraeth Cymru a phartneriaid eraill.
'Gallai'r cynllun lwyddo'
Mae'n dweud iddo gyfarfod â'r Prif Weinidog Carwyn Jones ddydd Mercher ac y gallai'r cynllun lwyddo pe ystyrir ffyrdd gwahanol o dalu amdano ac o werthu'r ynni y mae'n ei gynhyrchu.
Mae cyn-bennaeth Dŵr Cymru, Nigel Annett, hefyd wedi dweud y gellid sicrhau dyfodol i'r morlyn heb gyllid gan San Steffan.

Mae arweinydd Cyngor Abertawe Rob Stewart yn dweud bod angen ystyried ffyrdd eraill o gyllido
Dywedodd Mr Stewart: "Mae e (Carwyn Jones) a fi o'r un farn na fydd y cynllun cyllido presennol yn mynd rhagddo - ond bod y dechnoleg sydd ynghlwm â'r prosiect yn rhywbeth y gellid ei ystyried o hyd ac mae'r prif weinidog yn awyddus i ni archwilio hynny."
Yn ôl Rob Stewart, mi fydd y cynlluniau yn "edrych ar wahanol ffyrdd o gyllido, byddan nhw'n yn edrych ar sut y gellid adeiladu'r morlyn mewn ffordd wahanol ac mi fyddan nhw hefyd yn ystyried beth ddylid ei wneud â'r ynni a fydd yn cael ei gynhyrchu - mi allai gael ei werthu i'r grid ond hefyd mi allai gael ei gyflenwi yn uniongyrchol i sefydliadau."

Mi allai'r morlyn gael bywyd o 120 mlynedd
Dywedodd cyn-bennaeth Dŵr Cymru, Nigel Annett, y gellid sicrhau morlyn heb gymhorthdal gan San Steffan na Bae Caerdydd.
Yr hyn a fyddai'n allweddol i'w lwyddiant, dywedodd, fyddai arwyddo cytundebau tymor hir gyda chwmnïau dŵr y DU.
Ychwanegodd: "Mi allai'r diwydiant dŵr yng Nghymru ac ar draws y DU gael eu perswadio i brynu'r ynni o flaen llaw ac yna fe ellid ariannu'r prosiect am bris isel.
"Y canlyniad terfynol yw y byddai cost yr ynni yn isel - tipyn yn is na'r prisiau presennol."
Mae Mr Annett yn credu y byddai risg isel yn denu buddsoddwyr yn y cwmni a byddai modd defnyddio yr un model a ddefnyddiwyd i gyllido Glas Cymru, y cwmni y tu ôl i Dŵr Cymru.
Dywedodd cwmni Tidal Lagoon Power: "Mae Morlyn Bae Abertawe yn parhau i fod yn rhan allweddol o'n gweledigaeth.
"Ar y cyd â Llywodraeth Cymru, mi ffurfiwn i ddiwydiant cysylltiedig â llanw'r môr yng Nghymru."
Mae Sunday Politics Wales ar BBC 1 Cymru ar ddydd Sul, 1 Gorffennaf am 1100 BST
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd29 Mehefin 2018
- Cyhoeddwyd25 Mehefin 2018
- Cyhoeddwyd25 Mehefin 2018