'Cyfle i sicrhau cydraddoldeb ym mywyd gwleidyddol Cymru'
- Cyhoeddwyd
Mae yna alw ar arweinwyr nesaf pleidiau gwleidyddol yn y Cynulliad i roi arweiniad o ran sicrhau cydraddoldeb ac atal unrhyw ddiwylliant o aflonyddu o fewn gwleidyddiaeth Cymru.
Gydag etholiadau yn yr wythnosau nesaf i benodi arweinwyr newydd Llafur Cymru, Y Ceidwadwyr Cymreig a Phlaid Cymru, mae'r Gymdeithas Diwygio Etholiadol (ERS Cymru) wedi ysgrifennu at yr holl ymgeiswyr yn gofyn iddyn nhw ymrwymo i gyfres o addewidion ar amrywiaeth.
Mae'r addewidion yn cynnwys sicrhau mwy o ymgeiswyr yn etholiadau'r Cynulliad sy'n fenywaidd, yn anabl neu o gefndiroedd ethnig.
Yn ôl cyfarwyddwr ERS Cymru, Jess Blair mae'r etholiadau arweinyddol presennol yn rhoi "cyfle digynsail i Gymru fod ar flaen y gad o ran mynd i'r afael â materion anghydraddoldeb".
Mae ERS Cymru yn dweud eu bod "yn ymgyrchu am ddemocratiaeth sy'n addas ar gyfer yr 21ain Ganrif", ac fe gyhoeddodd adroddiad ym mis Gorffennaf yn amlinellu "lefelau sylweddol" o anghydraddoldeb o fewn y system wleidyddol yng Nghymru.
Yn yr apêl i ymgeiswyr o fewn y tair plaid, maen nhw'n gofyn am:
Ymroddiad i sicrhau bod o leiaf 45% o'u hymgeiswyr yn etholiadau'r Cynulliad yn fenywaidd;
Gyflwyno mesurau yn annog amrywiaeth ehangach o ymgeiswyr o ran eu cefndir ethnig ac oedran, yn cynnwys unigolion ag anableddau, a chamau i fonitro'r sefyllfa a sicrhau gwelliannau;
Addewid ar ran eu plaid i ymrwymo i god ar y cyd â phleidiau eraill y Cynulliad yn atal ymddygiad bygythiol;
Ymroddiad i wella addysg wleidyddol yn ysgolion Cymru.
Dywedodd Ms Blair nad yw'r sefyllfa wleidyddol bresennol yn adlewyrchiad teg o gymunedau Cymru.
"Er enghraifft, dyw'r Senedd erioed wedi cael AC benywaidd du neu o dras ethnig," meddai. "Fe allai taclo'r rhwystrau i gael gwell gynrychiolaeth o fewn gwleidyddiaeth Cymru newid sylfeini'n democratiaeth.
"Ar ben hynny, rydym yn gwybod fod lefelau'r gamdriniaeth a'r aflonyddu y mae gwleidyddion yn eu hwynebu yn anghynaladwy. Ar hyn o bryd, mae'n ymddangos nad oes gwir awydd i wneud dim ynghylch hynny.
"Mae gan yr ymgeiswyr yma ddyletswydd i wneud mwy ynglŷn â'r mater yma a gwneud addewidion cadarn all newid gwleidyddiaeth Cymru fel ei fod yn gweithio'n well o lawer i bobl Cymru."
Fe wnaeth adroddiad ERS Cymru ddatgelu bod carthion a llafnau rasel ymhlith y pethau sydd wedi eu hanfon drwy'r post i wleidyddion yng Nghymru, a bod 12 o'r gwleidyddion gafodd eu holi wedi dioddef rhyw fath o gamdriniaeth.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd12 Gorffennaf 2018
- Cyhoeddwyd10 Gorffennaf 2018
- Cyhoeddwyd20 Mehefin 2018
- Cyhoeddwyd19 Mehefin 2018
- Cyhoeddwyd13 Hydref 2017