Miloedd wedi gorfod cael meddyg teulu newydd y llynedd
- Cyhoeddwyd
Mae ystadegau'n awgrymu y bu'n rhaid i dros 18,000 o gleifion yng Nghymru symud i feddygfa newydd y llynedd ar ôl i'w meddygfeydd blaenorol gau.
Yn ôl gwybodaeth gan chwech o saith bwrdd iechyd Cymru, fe gaeodd wyth prif feddygfa a saith is-feddygfa yn 2017/18 - y nifer uchaf mewn blwyddyn mewn o leiaf bum mlynedd.
Mae hynny, medd Cadeirydd Pwyllgor Meddygon Teulu Cymru y BMA, Dr Charlotte Jones, yn rhoi "pwysau ychwanegol" ar y system.
Ond mae Llywodraeth Cymru'n dweud bod camau'n symud yn eu blaenau i benodi rhagor o feddygon teulu, a bod 'na duedd trwy'r DU i sefydlu meddygfeydd mwy yn cynnwys nifer o wasanaethau.
'Dibynnol'
Bu'n rhaid i Wendy Lloyd-Jones o Gilan yng Ngwynedd ddod o hyd i feddyg teulu newydd pan gaeodd meddygfa yn Abersoch fis Tachwedd diwethaf wedi trafferthion denu staff.
Roedd ymhlith tua 1,000 o bobl wnaeth arwyddo deiseb yn gwrthwynebu cau'r feddygfa. "Mae'n ofnadwy bod pobol oedrannus yn gorfod mynd cyn belled â Botwnnog am wasanaethau sylfaenol," meddai.
"Fel poblogaeth sy'n heneiddio [yma] rydan ni'n fwy dibynnol nag erioed ar y gwasanaeth iechyd lleol, sydd wedi ein gadael."
Roedd Cyngor Iechyd Cymuned Gogledd Cymru, y corff sy'n gwarchod buddiannau cleifion y rhanbarth, wedi beirniadu'r penderfyniad i gau cyn ymgynghori gyda chleifion.
Yn ôl y cynghorydd sir sy'n cynrychioli'r ward, Dewi Roberts, roedd yn "golled anferthol" i ardal "lle does bron ddim" trafnidiaeth gyhoeddus.
"Mae'n rhan o'r gymuned, mae 'na berthynas rhwng y meddygon a'r gymuned. Mae pobol yn fwy hyderus ynghylch mynd i'w feddygfa leol.
"Unwaith mae'n rhaid iddyn nhw deithio'n bellach mae'n dod yn faich, maen nhw'n penderfynu peidio, maen nhw'n gwaethygu ac mae hynny'n dod yn faich ar wasanaethau cyhoeddus neu'r adran frys ym Mangor - mae'n sefyllfa drasig."
Ond mae'n cydnabod fod gwasanaeth bws wythnosol i Fotwnnog, dan gymhorthdal, wedi bod "o ryw help, o leiaf".
'Biwrocratiaeth aruthrol'
Dywedodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ar y pryd bod sawl ffactor ynghlwm â'r penderfyniad i gau, gan gynnwys trafferthion recriwtio, barn cleifion ac anghenion meddygfa gysylltiol.
Fe rybuddiodd y BMA ym mis Chwefror fod dyfodol 74 o feddygfeydd yng Nghymru yn y fantol.
Mae'r ystadegau diweddaraf, sy'n ganlyniad ceisiadau rhyddid gwybodaeth gan BBC Cymru, yn dangos fod 19 prif feddygfa a 28 o is-feddygfeydd wedi cau ar draws Cymru ers 2013, a 46,700 o gleifion wedi gorfod chwilio am feddygfa newydd o'r herwydd.
Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan oedd yr unig un oedd ddim mewn sefyllfa i roi unrhyw wybodaeth.
Mae'r sefyllfa, yn ôl Dr Jones, sy'n rhedeg meddygfa yn Abertawe, yn ganlyniad trafferthion denu a chadw meddygon a staff ategol, llwyth gwaith trwm, dim digon o adnoddau a "biwrocratiaeth aruthrol".
Dywedodd taw dyna'r sefyllfa ar draws y DU, ac mae'r BMA yn cydweithio gyda Llywodraeth Cymru a'r byrddau iechyd i fynd i'r afael â'r problemau.
'Recriwtio meddygon'
"Rydym yn gobeithio nad ydy hyn yn achos o weithredu'n rhy chydig ac yn rhy hwyr achos does neb eisiau gweld unrhyw feddygfa yn cau," meddai.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod yn "gweithio i recriwtio mwy o feddygon teulu i Gymru".
"Ers dechrau ein hymgyrch Hyfforddi Gweithio Byw, rydym wedi gorlenwi llefydd hyfforddiant ar gyfer meddygon teulu yng Nghymru am y tro cyntaf.
"Rydym hefyd wedi llenwi llefydd hyfforddiant mewn ardaloedd lle mae wedi bod yn anodd yn draddodiadol i recriwtio."
Ychwanegodd bod yna duedd yng Nghymru a gweddill y DU i sefydlu meddygfeydd mwy gyda chymysgedd ehangach o sgiliau a staff iechyd proffesiynol yn rhoi ystod ehangach o ofal iechyd yn lleol."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd30 Gorffennaf 2018
- Cyhoeddwyd12 Mawrth 2018
- Cyhoeddwyd19 Mawrth 2018