Codi tâl parcio ar dir sy'n cael ei rentu am £7 y flwyddyn

  • Cyhoeddwyd
ynys LawdFfynhonnell y llun, Melanie Davies

Mae ymgyrchwyr wedi beirniadu elusen am eu cynlluniau i godi tâl o £5 y dydd i barcio ar ddarn o dir sydd ond yn costio £7 y flwyddyn o rent.

Mae'r RSPB wrthi'n apelio i'r arolygiaeth gynllunio wedi i Gyngor Sir Ynys Môn wrthod caniatâd iddynt roi peiriant i godi tâl ar ymwelwyr i ddefnyddio'r maes parcio ger Ynys Lawd.

Yn ôl RSPB, mae'r gost o warchod y tir cyfwerth â £250,000 y flwyddyn ac mae cyflwyno tâl i ddefnyddio'r maes parcio yn angenrheidiol ar gyfer parhau gyda'u gwaith o ofalu am adar prin yr arfordir.

Serch hynny, mae dros 6,000 o bobl bellach wedi arwyddo deiseb yn erbyn y syniad, gan feirniadu'r elusen am "ecsploetio" pobl yr ardal.

Yn 1998, cytunodd RSPB ar les 21 mlynedd ar gyfer y tir ger Ynys Lawd gyda Chyngor Sir Ynys Môn, a threfnu un taliad o £150 - sef £7 y flwyddyn - am y safle.

Dywedodd y Cynghorydd Shaun Redmond, aelod o'r pwyllgor cynllunio: "Mae haerllugrwydd yr RSPB yn rhyfeddol.

"Mae'r pwyllgor etholedig wedi dweud 'na' ddwywaith, ond maen nhw'n dal i geisio gwthio'r syniad am godi tâl yn ei flaen."

Dywedodd bod hyn er i'r elusen gytuno yn 2003 y byddai'r "cyhoedd yn gallu mwynhau'r tir yn ddi-dâl".

Disgrifiad o’r llun,

Does dim rhaid talu am barcio ar y safle ar hyn o bryd

Yn ôl Lisa Hooton, sy'n byw yn Llanddeusant ac yn arwain y ddeiseb ar-lein, ni fydd pobl dlotaf yr ardal yn gallu mwynhau'r safle pe byddai taliadau'n cael eu cyflwyno.

Dywedodd Ms Hooton: "Yr un peth rydym oll yma yn ei rannu yw Ynys Lawd, sy'n drysor i ni, ac mae penderfyniad y RSPB i godi tâl ar bobl yn mynd i atal pobl dlawd rhag ymweld â'r ardal."

Mae cynghorwyr lleol wedi gwrthod cais yr RSPB i godi tâl yn y maes parcio ddwywaith, er bod yr elusen wedi pwysleisio bod y penderfyniad yn chwarae rhan allweddol wrth ariannu canolfan gwerth £840,000 ar gyfer eu wyth aelod lleol o staff.

Fe wnaeth nifer o gynghorwyr hefyd ddadlau byddai gyrwyr sy'n awyddus i osgoi talu yn parcio ac yn achosi perygl ar hyd heolydd cul, cyfagos.

Dywedodd yr RSPB eu bod wedi "gwrando" ar adborth pobl leol a bod cynllun cynharach i gynnig tâl o £20 y flwyddyn i drigolion Caergybi am gael ei gynnig i drigolion Ynys Môn i gyd.

Roedd RSPB wedi bwriadu gofyn i ymwelwyr dalu £5 i barcio am ddiwrnod yn ystod tymor yr haf, a £2.50 yn ystod tymor y gaeaf.

Erbyn hyn, maen nhw'n bwriadu cynnig gwasanaeth haenog, gyda defnyddwyr yn gallu talu £2 fesul awr yn ystod yr haf a £1.50 fesul awr yn y gaeaf, a thalu £5 neu £2.50 am ddiwrnod cyfan.

Os bydd yr arolygiaeth gynllunio yn penderfynu bod Cyngor Sir Ynys Môn wedi ymddwyn yn annheg wrth wrthod y cais gwreiddiol, bydd yr awdurdod yn wynebu talu miloedd o bunnoedd o gostau i'r elusen.

Gofalu am fywyd gwyllt

Dywedodd Lewis James, pennaeth cronfeydd RSPB Cymru: "Mae clogwyni Ynys Lawd ymysg rhai o'r lleoliadau pwysicaf ar gyfer bywyd gwyllt Cymru, yn lle mae nifer o adar prin ac arbennig yr arfordir yn dod i nythu.

"Gyda'r ardal yn cynnwys dros 300 hectar ac adeilad cofrestredig, mae cost gwarchod yr ardal yn cyrraedd bron i £250,000 y flwyddyn."

Ychwanegodd Mr James fod yr elusen, fel gwarchodwyr y safle, yn "cymryd eu cyfrifoldeb o ddifrif."

"Rydym yn gwerthfawrogi nad yw'r newidiadau wrth fodd pawb, ond gall neb wadu pwysigrwydd clogwyni Ynys Lawd fel lle arbennig i bobl ddod i grwydro, mwynhau a darganfod pa mor fregus yw ein bywyd gwyllt yng Nghymru, a bod rhaid talu'n ddrud er mwyn ei warchod."

Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Sir Ynys Môn: "Mae'r cyngor a'r RSPB wedi rhannu cytundeb 21 mlynedd ers 1998, oedd yn cynnwys un taliad o £150 oddi wrth yr RSPB.

"Mae'r RSPB yn gyfrifol am ofalu am y safle, ac oherwydd siâp a maint unigryw Ynys Lawd, mae'r costau hynny'n uchel.

"Yn wyneb toriadau diweddar, rydym fel awdurdod yn gorfod canolbwyntio ar wasanaethau statudol.

"Credwn bod ein cytundeb gyda RSPB yn deg."