Merched Cymru yn herio Lloegr i gyrraedd Cwpan y Byd
- Cyhoeddwyd
Fe fydd tîm pêl-droed merched Cymru yn wynebu Lloegr yng Nghasnewydd nos Wener gan wybod y bydd buddugoliaeth yn sicrhau lle yng Nghwpan y Byd 2019.
Ar hyn o bryd mae tîm Jayne Ludlow bwynt ar y blaen i Loegr ar frig Grŵp 1, a dal heb golli gêm nac ildio gôl yn yr ymgyrch.
Bydd torf lawn yn Rodney Parade yn eu gwylio nhw'n ceisio cwblhau'r gamp, a hynny wedi i'r holl docynnau werthu allan o fewn 24 awr.
Ac mae Ludlow yn dweud ei bod hi'n hyderus fod Cymru wedi dewis y lleoliad "sy'n gweithio iddyn nhw" wrth geisio cwblhau'r cam olaf.
'Canolbwyntio ar y dasg'
Llwyddodd Cymru i sicrhau canlyniad cyfartal pan wnaeth y ddau dîm gyfarfod yn Southampton yn gynharach yn y grŵp, yn dilyn ymdrech amddiffynnol arwrol i gadw'r gêm yn ddi-sgôr.
Mae'n golygu y bydd buddugoliaeth nos Wener yn sicrhau lle'r merched yng Nghwpan y Byd 2019 yn Ffrainc, a hynny am y tro cyntaf erioed.
Os nad yw Cymru'n ennill fodd bynnag, gallai Lloegr eu pasio nhw ar frig y grŵp gyda buddugoliaeth yn eu gêm olaf hwythau yn Kazakhstan ar 4 Medi.
Byddai hynny'n golygu bod y crysau cochion yn gorffen yn ail, ac yn gorfod aros i weld a fyddan nhw'n un o'r pedwar tîm fydd yn sicrhau lle yn y gemau ail gyfle.
Bydd y gêm nos Wener yn fyw ar BBC Two Wales a BBC Radio Cymru, yn ogystal â gwefan BBC Cymru Fyw, ac mae parth cefnogwyr gyda sgrin fawr hefyd wedi'i sefydlu y tu allan i Rodney Parade.
Cyn eu gornest olaf, dywedodd Ludlow fodd bynnag na fyddai hi'n gofyn i'r chwaraewyr drin Lloegr yn wahanol i'w gwrthwynebwyr eraill oherwydd yr hanes rhwng y ddwy wlad.
"Dyna'r peth olaf fydda i eisiau iddyn nhw feddwl amdano yn yr ystafell newid. Mae'n rhaid iddyn nhw ganolbwyntio ar eu tasg," meddai.
"Rydyn ni eisiau cyrraedd Cwpan y Byd [a dyw gwneud hynny ar draul Lloegr] ddim yn gwneud gwahaniaeth i ni."
Ychwanegodd y byddai chwarae'r gêm mewn stadiwm fwy na Rodney Parade wedi golygu y gallai mwy o gefnogwyr Lloegr fod wedi sicrhau tocynnau, "a dim dyna beth roedden ni o reidrwydd eisiau".
"Rydyn ni wedi cael canlyniadau a pherfformiadau da fan hyn, ac mae'n agos i'n maes hyfforddi ni," meddai.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd30 Awst 2018
- Cyhoeddwyd30 Awst 2018
- Cyhoeddwyd22 Mehefin 2018
- Cyhoeddwyd9 Mehefin 2018