Giggs yn 'edrych ymlaen' at ei gêm gystadleuol gyntaf

  • Cyhoeddwyd
Chris Gunter a Stephen WardFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Y Weriniaeth oedd yn fuddugol o 1-0 y tro diwethaf i'r ddau dîm herio ei gilydd yng Nghaerdydd

Mae Ryan Giggs yn dweud ei fod yn "edrych mlaen" at arwain y tîm rhyngwladol yn ei gêm gystadleuol gyntaf fel rheolwr ei wlad.

Bydd Cymru yn herio Gweriniaeth Iwerddon yn Stadiwm Dinas Caerdydd nos Iau fel rhan o gystadleuaeth newydd Cynghrair y Cenhedloedd.

Dyma'r tro cyntaf i'r gwledydd chwarae'i gilydd ers i'r Weriniaeth ddod â gobeithion Cymru o gyrraedd Cwpan y Byd 2018 i ben ym mis Hydref y llynedd.

Dywedodd Giggs, sydd wedi rheoli'r tîm mewn tair gêm gyfeillgar hyd yma, y bydd y gêm hon yn "foment o falchder" iddo.

'Gêm galed'

Er bod llawer o sôn wedi bod am drafferthion diweddar carfan Denmarc, pwysleisiodd Giggs ei fod yn canolbwyntio'n llwyr ar herio'r Gwyddelod.

"Rydyn ni'n gwybod y bydd hi'n gêm galed. Dyw'r Weriniaeth ddim wedi colli yn eu chwe gêm oddi cartref diwethaf a 'dan ni'n gwybod beth sy'n ein hwynebu," meddai.

"Mae 'na fwy o bwysau ar y gêm hon gan mai hon yw'r gêm gystadleuol gyntaf i mi, ond hoffwn i weld fy nhîm yn anodd i'w curo ond yn chwarae pêl-droed deniadol ar yr un pryd."

Ffynhonnell y llun, Reuters
Disgrifiad o’r llun,

Ni fydd James McClean ar gael i'r ymwelwyr

Fe gadarnhaodd Giggs hefyd nad oes gan Gymru unrhyw broblemau gydag anafiadau.

Mae'r enwau mawr i gyd wedi dychwelyd i'r garfan gan gynnwys ymosodwr Real Madrid, Gareth Bale, sydd wedi dechrau'r tymor ar dân gyda thair gôl mewn tair gêm yn La Liga.

Mae sefyllfa'r Weriniaeth yn dra gwahanol, gyda Robbie Brady, James McCarthy, Shane Long a James McClean ymysg yr enwau cyfarwydd sydd ddim ar gael.

Cynghrair y Cenhedloedd

Mae'r gystadleuaeth newydd gan UEFA yn golygu llai o gyfleoedd ar gyfer gemau cyfeillgar i dimau rhyngwladol Ewrop.

Dywedodd UEFA y bydd y gystadleuaeth newydd yn "creu gemau mwy cystadleuol ac arwyddocaol i dimau, a strwythur a chalendr pwrpasol ar gyfer pêl-droed rhyngwladol".

Un o nodweddion Cynghrair y Cenhedloedd yw y bydd timau yn chwarae rhai eraill o safon debyg, ac yn medru ennill dyrchafiad neu ddisgyn o un gynghrair i'r llall.

Fe fydd perfformio'n dda yng Nghynghrair y Cenhedloedd yn golygu gwell siawns o grŵp rhagbrofol haws ar gyfer yr Euros pan fydd y rheiny'n cael eu dewis ym mis Rhagfyr.

Yn y gemau rhagbrofol hynny, fydd yn cael eu chwarae yn 2019, bydd dau dîm o bob grŵp yn ennill eu lle yn y twrnament terfynol.

Ond i unrhyw dîm fydd ddim wedi gorffen yn y ddau safle uchaf bydd dal cyfle arall i gyrraedd Euro 2020 drwy'r gemau ail gyfle, os oedd eu perfformiad yng Nghynghrair y Cenhedloedd eleni yn ddigon da.

Disgrifiad,

Dywedodd pennaeth cyfathrebu'r gymdeithas bêl-droed, Ian Gwyn Hughes bod yr ymgyrch yn "ddechrau newydd" i'r tîm cenedlaethol

Ar ôl herio'r Weriniaeth bydd carfan Giggs yn mynd yn eu blaenau i wynebu Denmarc yn Aarhus nos Sul, 9 Medi.

Bydd modd dilyn y cyfan o Stadiwm Dinas Caerdydd nos Iau ar wefan Cymru Fyw.