Ymchwiliad llofruddiaeth y rhwystredig, medd AS Wrecsam

  • Cyhoeddwyd
Nicholas Anthony Churton
Disgrifiad o’r llun,

Cafwyd hyd i gorff Nicholas Anthony Churton yn ei gartref yn Wecsam ar 27 Mawrth 2017

Fe ddylai ymchwiliad annibynnol gynnal arolwg o amgylchiadau llofruddiaeth dyn anabl o Wrecsam, yn ôl yr aelod seneddol lleol.

Cafodd Jordan Davidson o Wrecsam ei garcharu am 30 o flynyddoedd am lofruddio Nicholas Churton, 67, gyda machete a mwrthwl.

Dywed AS Wrecsam, Ian Lucas, er bod hyn wedi digwydd ym Mawrth 2017 roedd o'n rhwystredig gyda'r hyn mae o'n ei alw yn arafwch dau ymchwiliad gan Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu (SAYH) i'r amgylchiadau.

Dywedodd llefarydd ar ran SAYH y byddent yn cysylltu gyda Mr Lucas yn yr wythnosau nesa gyda'r newyddion diweddara.

Mae un o'r ddau ymchwiliad dan sylw yn edrych ar y cysylltiad rhwng Mr Churton a'r heddlu yn y dyddiau cyn iddo farw.

Mae'r ymchwiliad arall yn asesu'r cysylltiad rhwng yr heddlu a Davidson yn y cyfnod ar ôl iddo gael ei ryddhau o'r carchar.

"Rwyf am gael atebion gan yr heddlu a'r gwasanaeth prawf, ond hyd yma dwi heb eu cael," meddai Mr Lucas.

Ffynhonnell y llun, Heddlu Gogledd Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Mae Jordan Davidson wedi'i ddedfrydu i oes o garchar am lofruddio Nicholas Churton ym mis Mawrth 2017

"Dyw'r ffeithiau ddim yn cael eu datgelu i fi na'r cyhoedd, a dyw Heddlu Gogledd Cymru na Chomisiynydd yr Heddlu yn gwneud dim i ddal yr heddlu i gyfri.

"Rwy' dal yn edrych am atebion i sut fod troseddwr peryglus fel Jordan Davidson heb ei anfon yn ôl i'r carchar, gan olygu fod ganddo'r gallu i gyflawni'r drosedd erchyll yma."

Fe wnaeth Davidson, oedd wedi ei ryddhau ar drwydded o'r carchar, bledio'n euog i lofruddiaeth a chyhuddiadau eraill yn cynnwys niwed corfforol a lladrata.

Galw am adolygiad

Yn wreiddiol cafodd ei ddedfrydu i leiafswm o 23 mlynedd o garchar, ond cafodd hyn ei gynyddu i 30.

Cafodd y llofrudd, oedd a record hir o droseddu, ei ryddhau ar fechnïaeth ar ôl cael ei arestio am fod a chyllell yn ei feddiant ddyddiau cyn y llofruddiaeth.

Mae Mr Lucas wedi ysgrifennu ar Rory Stewart, Gweinidog y Carchardai, yn gofyn am adolygiad annibynnol.

Mae Victoria Atkins, Gweinidog yn y Swyddfa Gartref wedi dweud wrth Mr Lucas y bod gwelliannau wedi eu cyflwyno ar ôl i adolygiad dynnu sylw at "fethiannau sylweddol."

Disgrifiad o’r llun,

Roedd Mr Churton yn byw ar ben ei hun

Dyw holl ganfyddiadau'r adolygiad heb gael eu rhyddhau.

Dywedodd Catrin Evans, cyfarwyddwr Cymru Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu: "Rydym wedi llwyr ymroi i gynnal dau ymchwiliad trwyadl i Heddlu Gogledd Cymru mewn perthynas â llofruddiaeth Nicholas Churton.

"Mae'r ymchwiliad cyntaf ynglŷn â chyswllt Mr Churton cyn ei farwolaeth yn dirwyn i ben, tra bod yr ail ymchwiliad ddechreuodd ym mis Mai, ac yn edrych ar arést blaenorol Jordan Davidson yn parhau."

"Ein rôl ni yw ymchwilio i weithgareddau'r heddlu a'r modd o wneud penderfyniadau, nid oes gennym unrhyw oruchwyliaeth o'r Gwasanaeth Prawf."

Dywedodd Arfon Jones, Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru: "Mae Mr Lucas yn gwybod yn iawn fod ymchwiliad ar y gweill gan SAYH a byddai'n gwbl amhriodol i drafod y mater cyn bod yr ymchwiliad wedi ei gwblhau."