Achos Y Barri: 'Gwraig ddim yn abwyd' i ddenu plant
- Cyhoeddwyd
Mae dyn o'r Barri sydd wedi'i gyhuddo o gyfres o droseddau rhyw yn y 1980au a'r 1990au, wedi dweud nad oedd yn defnyddio'i wraig fel "abwyd" i ddenu plant.
Mae Peter Griffiths, 65, a'i wraig, Avril Griffiths, 61, yn gwadu cyhuddiadau hanesyddol o dreisio a cham-drin rhyw yn erbyn plant.
Fe wnaeth Mr Griffiths hefyd wadu "pimpio" merched allan i'w ffrindiau.
Roedd Mr Griffiths yn parhau i roi tystiolaeth ar ran yr amddiffyniad heddiw yn Llys y Goron Caerdydd, lle disgrifiodd ei berthynas a'i wraig fel un "wych".
Clywodd y llys mai Mrs Griffiths oedd "cariad cyntaf" Mr Griffiths, a bod y ddau wedi cwrdd pan roedd hi'n 13 neu 14.
Fe glywodd y rheithgor hefyd fod Mr Griffiths yn gyfrifol am drefnu teithiau pysgota ar gyfer swyddogion heddlu, ac mai ef oedd "pwynt cyswllt yr heddlu".
Pan ofynnwyd iddo a oedd wedi "pimpio" merched i'w ffrindiau, dywedodd Mr Griffiths: "Na".
Gofynnwyd iddo hefyd os cafodd Mrs Griffiths ei defnyddio fel "abwyd" i ddenu merched ifanc er mwyn eu hecsbloetio - ond cafodd yr honiadau hyn eu gwadu hefyd.
Un o'r cyhuddiadau yn erbyn y diffynnydd yw ei fod wedi cymryd llun anweddus o blentyn.
Dywedodd Mr Griffiths wrth y llys fod yr achwynydd wedi awgrymu creu'r lluniau ar ôl edrych ar gylchgrawn lle roedd Mrs Griffiths wedi ymddangos yn fron noeth.
Roedd y diffynnydd yn cytuno gyda'r awgrym fod Mrs Griffiths yn "rheoli" pethau pan gafodd y lluniau o'r achwynydd eu creu.
Ychwanegodd ei fod wedi cadw un o'r lluniau mewn "albwm" oedd yn cynnwys lluniau o Mrs Griffiths.
Mae Avril a Peter Griffiths yn gwadu'r cyhuddiadau yn eu herbyn ac mae'r achos yn parhau.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd18 Medi 2018
- Cyhoeddwyd12 Medi 2018
- Cyhoeddwyd10 Medi 2018