Ffilm newydd Tin Town 'ddim yn ddilyniant' i Twin Town

  • Cyhoeddwyd
Llyr Evans (ch) and Rhys Ifans (dd)Ffynhonnell y llun, Moviestore/REX/Shutterstock
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Llŷr Evans a Rhys Ifans yn serennu fel dau frawd yn Twin Town

Mae'n debyg na fydd modd galw ffilm newydd Tin Town yn "ddilyniant" i'r clasur, Twin Town, wedi'r cyfan.

Dywedodd y cyfarwyddwr Kevin Allen ei bod hi ddim yn bosib erbyn hyn i gyfeirio at ei ffilm hir ddisgwyliedig fel dilyniant oherwydd rhesymau cyfreithiol.

Cafodd Twin Town, oedd wedi ei lleoli yn Abertawe, ei chyhoeddi yn 1997 gan dyfu i fod yn un o'r ffilmiau Cymreig mwyaf eiconig.

Ym mis Ionawr 2017, cyhoeddodd Mr Allen fod cynlluniau i wneud ffilm newydd wedi cychwyn.

Ond wrth ysgrifennu ar dudalen Facebook ei ffilm newydd, dywedodd bod dim modd cyfeirio at Tin Town fel dilyniant am "resymau tu hwnt i'n rheolaeth".

Ni fydd ffilmio yn dechrau tan y gwanwyn.

'Ail fywyd i Twin Town'

Yn gynharach eleni, dywedodd Rhys Ifans - a chwaraeodd ran un o'r efeilliad Lewis yn Twin Town wrth ochr ei frawd, Llŷr - ei fod yn gobeithio gweld Twin Town yn dychwelyd "mewn rhyw ffurf".

"Dwi'm yn siŵr, gawn ni weld. Mae 'na sgript," meddai mewn rhaglen arbennig ar Radio Cymru.

"Mae ariannu ffilmia'n broses anodd, anodd, anodd iawn yn y byd sydd ohoni. Ma' holl dirwedd ffilmia' wedi newid.

"Gobeithio fydd 'na ryw fath o ail fywyd i Twin Town mewn rhyw ffurf, pwy a ŵyr."