Cyhoeddi pwy fydd arweinydd Plaid Cymru

  • Cyhoeddwyd
Adam Price, Rhun ap Iorwerth a Leanne Wood

Bydd Plaid Cymru yn cyhoeddi canlyniad etholiad arweinyddol y blaid yng Nghaerdydd yn ddiweddarach.

Mae'r aelodau yn dewis rhwng yr arweinydd presennol ac AC Rhondda Leanne Wood, AC Ynys Môn Rhun ap Iorwerth ac AC Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr Adam Price.

Daw'r etholiad yn dilyn penderfyniadau Mr Price a Mr Iorwerth i herio Ms Wood am yr arweinyddiaeth ym mis Gorffennaf.

Mae'r cyfrif wedi mynd i'r ail rownd gan fod yr un o'r ymgeiswyr wedi ennill 50% neu'n fwy o'r bleidlais.

Mae'r blaid wedi cynnal wyth cyfarfod ledled Cymru er mwyn i'r aelodaeth holi'r ymgeiswyr.

Ms Wood sydd wedi arwain Plaid Cymru ers 2012 ac yn ôl AC Rhondda roedd hi wedi'i synnu bod yna her i'w harweinyddiaeth gan Mr Price a Mr Iorwerth.

Cyflwynodd y ddau ymgeisydd arall eu henwau am yr arweinyddiaeth oriau cyn oedd disgwyl i'r enwebiadau ddod i law ym mis Gorffennaf.

Mewn cyfweliad gyda Newyddion 9 yn ystod yr ymgyrch dywedodd Rhun ap Iorwerth fod her i Leanne Wood yn anochel er iddo ddweud ym mis Mehefin nad oedd ganddo unrhyw gynlluniau i'w herio am yr arweinyddiaeth.

Wrth gyhoeddi ei fwriad i geisio am yr arweinyddiaeth dywedodd Mr Price na allai Ms Wood ddod yn brif weinidog nesaf Cymru ac y byddai Plaid Cymru'n colli'r etholiad Cynulliad nesaf os nad oedd newid.

Mae Ms Wood wedi amddiffyn ei record hi fel arweinydd yn ystod yr ymgyrch gan ddweud nad oes unrhyw un "wedi dweud wrthyf fod y polisïau sydd gennym o fewn y blaid yn rhai problematig".

Yn ystod yr ymgyrch mae'r ymgeiswyr wedi rhannu ei safbwyntiau ar sawl pwnc gan gynnwys annibynniaeth i Gymru, Brexit a chlymbleidio gyda'r Ceidwadwyr yn y Senedd yn y dyfodol.

Mae gan Blaid Cymru tua 8,000 o aelodau ac mae pob un bleidlais yn gyfartal yn yr etholiad arweinyddol.

Serch hynny mae methiant Ms Wood i ddenu cefnogaeth yr un o bedwar Aelod Seneddol Plaid Cymru wedi hawlio penawdau - er i dros 50 o gynghorwyr Plaid Cymru ysgrifennu at Ms Wood i ddatgan eu cefnogaeth iddi.