Chwaraewyr allweddol Cymru allan cyn gêm Gweriniaeth Iwerddon
- Cyhoeddwyd

Ni fydd Gareth Bale na chwaith Aaron Ramsey ar gael am wahanol resymau
Mae Cymru yn paratoi i wynebu Gweriniaeth Iwerddon nos Fawrth gyda sicrwydd byddai buddugoliaeth yn Nulyn yn eu codi i frig grŵp B4 yng Nghynghrair y Cenhedloedd.
Fe fydd Cymru'n dechrau'r gêm heb ddau chwaraewr allweddol, gan na fydd Gareth Bale na chwaith Aaron Ramsey ar gael am wahanol resymau.
Mae Bale wedi dychwelyd i Sbaen yn dilyn anaf ac mae Aaron Ramsey yn treulio amser gyda'i deulu ar ôl i'w wraig roi genedigaeth i efeilliaid dros y penwythnos.
Bydd yn rhaid i reolwr Cymru, Ryan Giggs hefyd ymdopi heb Ethan Ampadu a Chris Mepham, ar ôl i'r ddau ddioddef anafiadau yn gynharach yn yr wythnos.
Mae chwaraewr canol cae Ipswich, Gwion Edwards, ac amddiffynnwr Sheffield United, Kieron Freeman, wedi cael eu galw i'r garfan.
Mae Gweriniaeth Iwerddon, sydd ar waelod y grŵp ar hyn o bryd wedi cadarnhau na fydd y chwaraewr canol cae Callum O'Dowda ar gael ar ôl iddo ddioddef anaf yn erbyn Denmarc nos Sadwrn.
Ben Davies yn siarad cyn gêm Cymru yn erbyn Gweriniaeth Iwerddon
Y tro diwethaf i Gymru chwarae yn erbyn Gweriniaeth Iwerddon oedd yn y fuddugoliaeth gampus o 4-1 nol ym mis Medi., dolen allanol
Ers hynny mae Cymru wedi colli oddi-cartref o 2-0 yn yr ail gêm yng Nghynghrair y Cenhedloedd yn erbyn Denmarc yn Aarhus.
Colli oedd eu hanes hefyd nos Iau yn Stadiwm Cenedlaethol Cymru o 4-1 yn erbyn Sbaen.
Bydd Cymru yn wynebu'r Weriniaeth yn Stadiwm Aviva, Dulyn, am 19:45 nos Fawrth.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd6 Medi 2018
- Cyhoeddwyd10 Hydref 2018
- Cyhoeddwyd12 Hydref 2018
- Cyhoeddwyd16 Hydref 2018