'Mae gennym hyder yn y chwaraewyr ifanc'
Mae amddiffynnwr Cymru, Ben Davies yn hyderus bydd chwaraewyr ifanc Cymru'n ddigon da i lenwi'r bwlch yn lle chwaraewyr allweddol sy'n absennol.
Daw sylwadau Davies cyn i Gymru wyneb Gweriniaeth Iwerddon yng Nghynghrair y Cenhedloedd nos Fawrth yn Nulyn.
Ni fydd Gareth Bale na chwaith Aaron Ramsey ar gael am wahanol resymau.
Bydd rhaid i reolwr Cymru, Ryan Giggs ymdopi heb Ethan Ampadu a Chris Mepham hefyd, ar ôl i'r ddau ddioddef anafiadau yn gynharach yn yr wythnos.
Yn ôl Davies, mae wedi "gweld digon" yn y sesiynau ymarfer i'w argyhoeddi fod y chwaraewyr ifanc ddigon da i gamu fyny i'r tîm.