Bennett wedi prydlesu swyddfa'n groes i gyngor cyfreithiol

  • Cyhoeddwyd
Gareth Bennett
Disgrifiad o’r llun,

Mae Gareth Bennett yn arweinydd ar UKIP yn y Cynulliad ers mis Awst

Fe wnaeth arweinydd UKIP yn y Cynulliad brydlesu swyddfa yn llawn tamprwydd, heb arolwg ac yn erbyn cyngor gan gyfreithwyr, yn ôl ymchwiliad.

Mae Comisiynydd Safonau'r Cynulliad, Syr Roderick Evans yn credu fod Gareth Bennett wedi torri côd ymddygiad aelodau cynulliad wrth wario £10,000 o arian cyhoeddus ar swyddfa ym Mhontypridd.

Yn ôl rhai o ganfyddiadau drafft yr adroddiad sydd wedi eu rhyddhau, nid oedd yr AC wedi ymweld â'r swyddfa tan fisoedd ar ôl i'r brydles gael ei arwyddo.

Nid oedd Mr Bennett am wneud sylw ar y mater.

Datgelodd BBC Cymru ym mis Ebrill fod yr AC UKIP, oedd ddim yn arweinydd ar y pryd, wedi cefnu ar gynllun i agor swyddfa yn ei etholaeth mewn hen glwb nos.

Roedd y brydles yn fod i barhau hyd at fis Ebrill 2021 ond daeth i ben ym mis Medi 2017 ar ôl iddi ddod i'r amlwg fod costau adnewyddu'r adeilad yn fwy na'r hyn sydd ar gael i ACau.

Fe wnaeth Mr Bennett ymddiheuro i'r Comisiynydd.

Mae'r canfyddiadau a ddaeth i ddwylo'r BBC yn dangos fod y Comisiynydd Safonau o'r farn fod Mr Bennett wedi bod yn "fyrbwyll" wrth fynd yn groes i gyngor proffesiynol a heb sicrhau fod arolygon wedi eu cwblhau.

Ffynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Gareth Bennett eisiau agor swyddfa ar hen safle clwb nos Angharad's ym Mhontypridd

Daeth Syr Roderick i wybod fod £9,883 wedi cael ei wario ar yr adeilad, gan gynnwys £5,200 mewn rhent a £2,477 ar ddeunyddiau adeiladu.

Cafodd y brydles ei arwyddo gan Mr Bennett ym mis Mawrth 2017 ond roedd hi'n fis Gorffennaf arno'n ymweld â'r safle am y tro cyntaf.

Yn ystod yr haf yno, sylweddolodd aelodau o staff fod yr gan yr adeilad damprwydd ar y ddau lawr ac roedd yn mynd yn adfail.

Ni chafodd unrhyw arolwg ei wneud ar yr adeilad cyn i'r brydles gael ei arwyddo, a derbyniodd Syr Roderick dystiolaeth bod cyfreithwyr wedi cynghori Mr Bennett i beidio parhau â'r cynllun.

Adroddiadau 'maleisus'

Mae disgwyl i'r mater gael ei gyfeirio at y pwyllgor safonau a fydd wedyn yn penderfynu os fydd Mr Bennett yn cael ei gosbi.

Gall ACau wahardd Mr Bennett o'r Cynulliad am gyfnod heb dal.

Dywedodd llefarydd ar ran Mr Bennett: "Nid ydym yn fodlon ymateb i adroddiadau gwleidyddol maleisus sydd wedi eu rhyddhau".

Ychwanegodd fod Mr Bennett wedi gwario £4,500 "o'i boced ei hun" i ddod â'r brydles i ben.

Dechreuodd yr ymchwiliad ar ôl i brif weithredwr y cynulliad, Manon Antoniazzi, gyfeirio'r mater at Syr Rodderick.

Dywedodd Syr Roderick a llefarydd ar ran y cynulliad nad oedden nhw am wneud sylw.