Llofruddiaeth Abertawe: Un yn euog a dau yn ddieuog

  • Cyhoeddwyd
John "Jack" WilliamsFfynhonnell y llun, LLUN TEULU
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd John "Jack" Williams, 67 oed ei ddarganfod ar lawr ei ystafell fyw gyda'i ddwylo wedi eu clymu y tu ôl i'w gefn.

Mae dyn 42 oed wedi'i ganfod yn euog o lofruddio dyn yn ei gartref yn Abertawe ym mis Mawrth gyda dau o'r diffynyddion eraill yn ddieuog o'r cyhuddiadau yn eu herbyn.

Mae Jonathan Donne hefyd wedi'i ganfod yn euog o ladrata yn Llys y Goron Abertawe.

Fe gafodd Donne, ynghyd â Gemma Owen, 31, a Simon Cairns, 46, eu cyhuddo o lofruddio John "Jack" Williams, 67 oed, yn ystod lladrad yn ei gartref yn ardal Bonymaen.

Mae Simon Cairns wedi'i ganfod yn ddieuog o'r holl gyhuddiadau yn ei erbyn ac wedi'i rhyddhau "heb niweidio'i enw da".

Mae Gemma Owen, oedd yn treulio 28 niwrnod dan glo o ganlyniad i achos o ddwyn yn y gorffennol, hefyd wedi' chanfod yn ddieuog o'r holl gyhuddiadau.

'Oes o garchar'

Cafodd Mr Williams, 67 oed ei ddarganfod ar lawr ei ystafell fyw gyda'i ddwylo wedi eu clymu y tu ôl i'w gefn.

Dywedodd Donne wrth y llys yn ystod yr achos ei fod ef a'i ffrind Simon Cairns wedi bwriadu dwyn oddi wrth Mr Williams ar ôl clywed fod y pensiynwr yn tyfu canabis.

Wrth gael ei groesholi gan Christopher Clee, ei gyfreithiwr, dywedodd Donne nad oedd wedi bwriadu anafu Mr Williams.

Dywedodd yn llawn dagrau: "Allai ddim credu ei fod wedi digwydd a'i fod yn farw. Allai ddim credu, fe wnes i ond ei glymu."

Dywedodd ar ôl dianc gyda chyflenwad o gyffuriau ei fod wedi dechrau poeni am gyflwr Mr Williams, a'i fod wedi cynnig cymryd tacsi yn ôl i'r eiddo.

Bydd gwrandawiad yn cael ei gynnal i ddedfrydu Donne ddydd Iau.

Dywedodd y barnwr Mr Ustus Lewis y byddai Donne yn wynebu dedfryd o garchar am oes gyda'r isafswm heb ei benderfynu eto.