'Afresymol' i wrthod cais maes parcio ger Ynys Lawd

  • Cyhoeddwyd
ynys LawdFfynhonnell y llun, Melanie Davies
Disgrifiad o’r llun,

Roedd cynghorwyr yn pryderu byddai gyrwyr yn parcio ar hyd y ffyrdd cul oedd yn arwain at Dŵr Elin

Mae'r Arolygiaeth Gynllunio wedi beirniadu penderfyniad Cyngor Môn i wrthod cynlluniau i godi tâl am barcio ger Ynys Lawd.

Ym mis Mehefin, gwrthododd Cyngor Môn gais yr elusen gwarchod adar yr RSPB i roi peiriannau talu ac arddangos ger Tŵr Elin a'r ganolfan ymwelwyr yng Nghaergybi.

Fe wnaeth swyddogion cynllunio argymell y dylai'r cynlluniau gael eu cymeradwyo, ond gwrthododd cynghorwyr Môn, gan ddweud bod perygl i bobl geisio parcio ar hyd ffyrdd cul cyfagos i osgoi talu am barcio.

Mae Cyngor Môn wedi dweud eu bod am ystyried cynnwys yr adroddiad gan yr Arolygiaeth Gynllunio yn "ofalus" ac mae'r RSPB wedi croesawi'r penderfyniad.

Diffyg 'tystiolaeth sylweddol'

Cafodd yr adroddiad gan yr Arolygiaeth Gynllunio ei threfnu wedi i'r RSPB apelio yn erbyn penderfyniad y cyngor.

O ganlyniad i'r adroddiad, mae'n bosib y bydd rhaid i Gyngor Môn dalu costau sylweddol i'r RSPB.

Yn ôl Kay Sheffield, a oedd wedi cael ei phenodi i gynnal yr ymchwiliad ar ran Llywodraeth Cymru, roedd yr awdurdod lleol wedi methu profi'r risg posib y gallai gosod peiriannau o'r fath beri i yrwyr.

Dywedodd Ms Sheffield yn yr adroddiad: "Nid oes tystiolaeth sylweddol i gadarnhau y byddai gosod peiriannau parcio nac arwyddion perthnasol yn arwain at gynnydd afresymol o bobl yn parcio ar hyd yr heol ger Ynys Lawd."

Disgrifiad o’r llun,

Mae modd parcio am ddim ar y safle ar hyn o bryd

Nodir yn yr adroddiad bod Cyngor Môn wedi "ymddwyn yn afresymol" wrth wrthod y cais a bod modd "cyfiawnhau" ad-dalu costau i'r elusen.

Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Môn eu bod yn bwriadu "ystyried darganfyddiadau'r arolygaeth yn ofalus".

Ar ran yr RSPB, dywedodd llefarydd eu bod yn "croesawi'r penderfyniad" gan yr arolygaeth i gytuno i osod peiriannau parcio.

Yn ôl y llefarydd: "Rydym yn gwybod bod ein penderfyniad i gyflwyno tal i yrwyr nad ydynt yn aelodau o'r RSPB wedi peri pryder, ac yn ystod yr haf fe wnaethom gyhoeddi newidiadau sylweddol i'n ceisiadau gwreiddiol, a oedd yn cynnwys treiali consesiwn i drigolion lleol.

"Rydym wedi parhau i wrando ar bryderon, ac am wneud cyhoeddiad pellach am ein cynlluniau unwaith i Gyngor Môn benderfynu ar gais gwahanol i adnewyddu rhan o'r Ganolfan Ymwelwyr."

Un o'r cynghorwyr a bleidleisiodd yn erbyn caniatáu'r cais oedd Trefor Lloyd Hughes, a dywedodd ei fod yn "siomedig iawn, yn enwedig gan ein bod ni'n teimlo fod ein hachos yn un cryf".

Ychwanegodd: "Y cyfan fedrwn ni wneud nawr yw cadw llygad ar yr RSPB a sicrhau eu bod yn ailfuddsoddi'r arian yn lleol fel maen nhw wedi addo gwneud."