Llofruddiaeth Abertawe: Carcharu dyn am 31 mlynedd
- Cyhoeddwyd
Mae dyn gafodd ei ganfod yn euog o lofruddio pensiynwr yn Abertawe wedi'i ddedfrydu i garchar am oes gydag o leiaf 31 mlynedd dan glo.
Fe gafodd Jonathan Donne, 42 oed, ei ganfod yn euog gan reithgor am lofruddio John "Jack" Williams, 67 oed, yn ystod lladrad yn ei gartref yn ardal Bonymaen ym mis Mawrth eleni.
Cafwyd Donne hefyd yn euog o ladrata, ac fe gafodd ddedfryd o 15 mlynedd o garchar am hynny gyda'r dedfrydau i gyd-redeg.
Cafodd Mr Williams ei ddarganfod ar lawr ei ystafell fyw gyda'i ddwylo wedi eu clymu y tu ôl i'w gefn.
Fe gafodd dau arall oedd wedi'i cyhuddo o droseddau yn erbyn Mr Williams eu canfod yn ddi-euog gan y rheithgor.
Yn ystod yr achos, dywedodd Donne wrth y llys yn ystod yr achos ei fod ef a'i ffrind wedi bwriadu dwyn oddi wrth Mr Williams ar ôl clywed fod y pensiynwr yn tyfu canabis.
Dywedodd ar ôl dianc gyda chyflenwad o gyffuriau ei fod wedi dechrau poeni am gyflwr Mr Williams, a'i fod wedi cynnig cymryd tacsi yn ôl i'r eiddo.
Wrth ei ddedfrydu, dywedodd y barnwr Mr Ustus Lewis: "Roedd hwn yn ymosodiad ciaidd a milain ar ddyn oedrannus yn ei gartref ei hun.
"Ni ddangosoch unrhyw bryder amdano, ac wrth roi tystiolaeth ni ddangosoch unrhyw edifeirwch.
"Rwy'n siwr eich bod wedi targedu Mr Williams am eich bod yn gwybod nad oedd yn hoff o fanciau ac felly yn cadw arian yn ei gartref."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd17 Awst 2018
- Cyhoeddwyd30 Hydref 2018
- Cyhoeddwyd3 Hydref 2018