Yr Ysgwrn yn ennill gwobr cadwraeth adeilad
- Cyhoeddwyd
Mae'r Ysgwrn, cartref y bardd Hedd Wyn, wedi ennill gwobr am waith cadwraeth.
Daeth Yr Ysgwrn yn Nhrawsfynydd i'r brig yng nghategori Cadwraeth Adeilad Gwobrau RICS mewn seremoni yn Llundain ddydd Gwener.
Dywedodd rheolwr prosiect Yr Ysgwrn ei bod yn "hynod, hynod o falch" o fod wedi cipio'r wobr.
Cafodd Amgueddfa San Ffagan hefyd ganmoliaeth uchel yn y categori Twristiaeth a Hamdden.
Arwyddocâd arbennig yr adeilad
Achubodd Yr Ysgwrn y blaen yn erbyn gwaith cadwraeth i eglwys gadeiriol Caergaint, Abaty Depare yn Northampton a Tropical Ravine yng ngerddi botaneg Belfast.
Dywedodd beirniaid y wobr: "Mae prosiectau cadwraeth gwych yn gwella dealltwriaeth pobl o'r adeilad, ei stori a'i arwyddocâd.
"Mi allai stori Hedd Wyn fod wedi cael ei hadrodd drwy luniau a symud cynnwys yr adeilad i amgueddfa.
"Mae'r gwaith cadw ar y ffermdy bach mewn ardal wledig gyda'i olygfa dros Eryri yn cynnig dealltwriaeth llawer mwy pwerus o'i arwyddocâd diwylliannol a llenyddol, yn ogystal â'i le yn nghyd-destun erchyllterau'r Rhyfel Mawr."
Dywedodd Siân Griffiths, rheolwr prosiect Yr Ysgwrn: "Da ni'n hynod, hynod o falch o fod wedi ennill y wobr drwy Brydain, ac mae'n adlewyrchu'r gwaith caled sydd wedi cael ei wneud gan bawb i wireddu gweledigaeth Yr Ysgwrn ar ei wedd bresennol."
Dywedodd bod diolch arbennig i'r penseiri Purcell, tîm dylunio, staff Parc Cenedlaethol Eryri, holl wirfoddolwyr Yr Ysgwrn a'r ymwelwyr sydd wedi dod drwy'r drws.
"Mae'r gefnogaeth 'da ni 'di gael gan bawb wedi bod yn arbennig."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd1 Mehefin 2018
- Cyhoeddwyd26 Hydref 2018
- Cyhoeddwyd13 Rhagfyr 2017