Achos Y Mwmbwls: Dyn yn euog o lofruddio ei wraig

  • Cyhoeddwyd
Cartref Derek Potter
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd corff Lesley Potter ei ganfod yn ei chartref yn Y Mwmbwls ar 7 Ebrill

Mae dyn wedi ei gael yn euog o lofruddio ei wraig a cheisio gwneud iddo edrych fel petai hi wedi lladd ei hun.

Roedd Derek Potter, 64, wedi ei gyhuddo o ladd Lesley Potter, 66, yn eu cartref yn y Mwmbwls ar 7 Ebrill.

Clywodd Llys y Goron Abertawe ei fod wedi cyfaddef i gydweithiwr ei fod wedi lladd ei wraig, gan egluro ei fod wedi ei chrogi.

Roedd Potter wedi gwadu'r cyhuddiad ond fe'i cafwyd yn euog o lofruddiaeth gan y rheithgor.

Yn wreiddiol ni chafodd y farwolaeth ei drin fel un amheus, ond ar ôl i Potter gyffesu wrth Natalia Mikhailoea-Kisselevskaia mewn tafarn, fe ddechreuodd yr heddlu ymchwiliad newydd.

Yn ystod eu diod gyntaf, meddai Ms Mikhailoea-Kisselevskaia, dywedodd Mr Potter ei fod wedi "ei chrogi achos roedd hi'n fy ngyrru i'n wallgof".

Ychwanegodd ei bod hi'n credu fod Mr Potter yn tynnu coes i ddechrau, "ond roedd e'n dweud e gydag wyneb syth, dim dagrau yn ei lygaid, felly nes i feddwl, o na, mae e wedi'i wneud e".

Dangosodd archwiliad post-mortem fod gan Ms Potter nifer o anafiadau gan gynnwys cleisiau a thoriadau niferus i'w hasennau.

Dywedodd Mr Potter yn wreiddiol ei bod hi wedi lladd ei hun.

Fe fydd yn cael ei ddedfrydu ddydd Iau.