Adfer cofeb i'r bardd a'r llenor Dylan Thomas yn Abertawe

  • Cyhoeddwyd
Cofeb
Disgrifiad o’r llun,

Mae gwaith gwreiddiol yr arlunydd Ronald Cour o 1963 wedi cael ei adfer ym mharc Cwmdonkin, Abertawe

Mae cofeb sydd wedi cael ei hadfer i gofio'r bardd a'r llenor, Dylan Thomas wedi cael ei dadorchuddio yn Abertawe i gofio 65 mlynedd ers ei farwolaeth.

Mae'r pennwn yng nghanol parc Cwmdonkin wedi dirywio gyda mwsogl yn gorchuddio'r arysgrifen, sef dwy linell olaf ei gerdd Fern Hill.

Yr arlunydd Ronald Cour oedd yn gyfrifol am y gwaith gwreiddiol yn 1963 i nodi deng mlynedd ers marwolaeth y bardd yn Efrog Newydd ym mis Tachwedd 1953.

Dywedodd gwraig y diweddar Ronald Cour, Glenys, sydd bellach yn 94 oed "nad oedd modd darllen yr arysgrif o gwbwl."

Daeth tua 30 o bobl ynghyd i wrando ar ddarlleniad o waith Thomas, Cwmdonkin, cyn i Ms Cour ddadorchuddio'r gofeb.

Disgrifiad o’r llun,

Bu farw Dylan thomas yn Efrog Newydd ym mis Tachwedd 1953

Cymdeithas Dylan Thomas, Y Loteri Treftadaeth a grŵp gwirfoddol sy'n gysylltiedig â'r parc dalodd am yr adferiad.

Ychwanegodd Ms Cour: "Mae'n anhygoel fod pobl o'i ddinas enedigol wedi caniatáu i hyn ddigwydd. Rwyf mor ddiolchgar i'r bobl hyfryd ma'."

Dywedodd aelod o'r grŵp o wirfoddolwyr, Geoff Haden fod llawer o waith Thomas wedi'i ysbrydoli gan y parc.

"Os edrychwch chi ar ei gerddi, mae 'na lawer o gyfeiriadau i'r parc.

"Mae hyn i gyd yn rhan o ddod a Dylan yn ôl i'r ucheldir ble gafodd ei eni, ble roedd yn gweithio am 23 mlynedd a ble ysgrifennodd dau draean o'i waith gafodd ei gyhoeddi," meddai.