Gwerthu llythyrau caru Dylan Thomas
- Cyhoeddwyd
Caiff tri o lythyrau caru cynnar a ysgrifennodd Dylan Thomas i'w ddarpar wraig eu gwerthu mewn arwerthiant yn ddiweddarach.
Dydi'r llythyrau, sy'n dyddio o Awst 1936, ddim wedi cael eu cyhoeddi o'r blaen, ac maen nhw'n cael eu gwerthu gan mlynedd ers geni'r bardd.
Dim ond ers ychydig fisoedd yr oedd Thomas wedi cyfarfod Caitlin Macnamara.
Roedd y bardd yn ysgrifennu'r llythyrau o gartref ei rieni yn Cwmdonkin Drive, Abertawe i'w gariad oedd yn byw yn Hampshire ar y pryd.
Caru ei gilydd
Wrth ddisgrifio bod ar wahân dywedodd Thomas: "Dwi eisiau gorwedd i lawr ac udo fel ci."
"Dwi'n methu meddwl y bydd dim yn digwydd heb ein bod gyda'n gilydd," meddai yn un o'r llythyrau.
"Fyddwn i ddim eisiau gwneud dim oni bai dy fod ti yna yn fy ngharu i....yn hoffi'r un pethau....."
Fe wnaeth Thomas a Caitlin gyfarfod yng ngwanwyn 1936, pan oedd hi'n 23 oed, mewn tafarn yn Llundain. Cafodd y ddau eu cyflwyno i'w gilydd gan yr arlunydd Augustus John.
Roedd Caitlin yn gariad ac yn fodel i John ac yn byw gyda'i deulu yn Hampshire.
Ym mis Gorffennaf 1936 aeth John a Caitlin i aros efo'r awdur Richard Hughes yn Nhalacharn ac fe wnaeth Thomas wahodd ei hun.
Daeth i ben gyda John yn pwnio Thomas, oedd wedi meddwi ac yn eiddigeddus, cyn gyrru i ffwrdd gyda Caitlin.
Dal yn fyw
Mae'r llythyrau yn dyddio ar ôl hynny a Thomas yn datgan ei gariad.
"Mae'n wych meddwl dy fod tithau yn fy ngharu i," meddai.
Mewn un llythyr mae'n addo yfed llai a chymryd mwy o ofal o'i hun.
Mae llythyr arall mewn llawysgrifen flêr ac wedi ei gywiro - ar ôl dod adre o dafarn un nos Wener ac mae'n dweud: "Dim ond gadael i ti wybod nad wyf wedi marw a fy mod yn ysgrifennu llythyr a fydd efo ti erbyn dydd Llun."
Mae 'na amcan bris o £15,000 ar y llythyrau a fydd ar werth yn Sotheby's.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd26 Mai 2014
- Cyhoeddwyd14 Ebrill 2014
- Cyhoeddwyd28 Chwefror 2014
- Cyhoeddwyd14 Chwefror 2014