Marwolaeth Llanbedr Pont Steffan: Rhyddhau dyn ar fechniaeth

  • Cyhoeddwyd
Katyarzyna PaszekFfynhonnell y llun, Llun teulu

Mae dyn 40 oed gafodd ei arestio ar amheuaeth o lofruddiaeth yn Llanbedr Pont Steffan wedi'i ryddhau ar fechnïaeth.

Mae Heddlu Dyfed-Powys yn parhau i ymchwilio i ddigwyddiad ar Heol y Bont ar 8 Tachwedd, ble cafwyd hyd i ddynes gydag anafiadau difrifol.

Bu farw Katarzyna Elzbieta Paszek, 39 oed, yn ddiweddarach yn yr ysbyty.

Cafodd tri dyn arall o ardal Llanbed hefyd eu harestio.

Mae un o'r rheiny - dyn 27 oed - wedi'i ryddhau ar fechnïaeth.

Nid oes camau pellach wedi'u cymryd yn erbyn y ddau arall - dyn 37 oed a dyn 31 oed.

Dywedodd teulu Ms Paszek mewn datganiad eu bod wedi'i "llorio" o golli Katarzyna: "Roedd hi'n fam, merch, chwaer ac anti cariadus a gymaint yn ei charu."

Mae swyddogion yr heddlu'n parhau i apelio am wybodaeth, ac yn annog unrhyw un gyda gwybodaeth i ffonio 101.