Gwobr i seren tenis cadair olwyn ifanc o Gaernarfon

  • Cyhoeddwyd
Fran SmithFfynhonnell y llun, Chwaraeon Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Mae Fran - sy'n hyfforddi, gwirfoddoli a mentora - yn aelod o Fwrdd Ieuenctid Chwaraeon Anabledd Cymru i helpu i ysbrydoli eraill

Mae merch ifanc o Gaernarfon wedi cael ei gwobrwyo am ei gwaith gwirfoddol yn y maes chwaraeon i bobl anabl.

Mae Fran Smith, sy'n 19 oed, wedi rhoi cannoedd o oriau gwirfoddol er gwaetha'i anawsterau gyda blinder cronig a phroblemau iechyd eraill.

Bydd y seren tenis cadair olwyn ifanc yn derbyn gwobr y Person Ifanc Ysbrydoledig yng Ngwobrau Chwaraeon Cymru 2018 ar 4 Rhagfyr.

Er ei bod bellach yn fyfyrwraig ym Mhrifysgol Met Caerdydd, mae'n cael ei chydnabod am ei gwaith yng Ngwynedd - ac am hyfforddi tenis, boccia a phêl fasged cadair olwyn.

"Mae'n teimlo'n anhygoel [i ennill y wobr]," meddai Fran wrth Cymru Fyw.

"Dwi pob tro'n hoffi ennill gwobrau - dim i fi, ond mae o'n rhoi Gwynedd a Chaernarfon ar y map a dangos pa mor dda 'di'r ardal a'r bobl sy'n gweithio yna."

Ffynhonnell y llun, Chwaraeon Cymru

Ond doedd pethau ddim wastad yn hawdd i Fran.

Er ei bod hi'n mwynhau addysg gorfforol, roedd ei chyfnod yn yr ysgol yn un anodd.

"Allan o'r saith mlynedd o'n i yn ysgol uwchradd, wnes i ond mwynhau dwy," meddai Fran.

"Wnes i'm deutha llawer o bobl am brwydrau iechyd fi tan y diwedd ond pan wnes i, oedd yr athrawon yn fwy na hapus i helpu.

"Does 'na bron ddim cyfleoedd i chwaraeon anabledd mewn ysgolion uwchradd.

"Mae o'n gwella yn araf, ond pan o'n i'n ysgol o'n i fel arfer yn eistedd allan o'r gwersi addysg gorfforol tuag at y diwedd.

"Roedd rhaid i fi wneud bob dim fy hun tu allan i'r ysgol."

Pam ddylai unrhyw beth fy stopio i?

Mae gwirfoddoli'n rhedeg yn y teulu ac mae Fran yn dweud bod ei mam, Deb Bashford, yn ysbrydoliaeth iddi.

Mae Deb yn defnyddio cadair olwyn ei hun ac yn wirfoddolwr chwaraeon brwd iawn.

Fe enillodd y Wobr i Wirfoddolwr yng Ngwobrau Chwaraeon Cymru ddwy flynedd yn ôl.

"Mae hi wedi dysgu cymaint i mi am fywyd," meddai Fran.

"Pan rydych chi'n tyfu i fyny gyda mam ag anabledd difrifol ond sydd byth yn gadael i unrhyw beth ei stopio hi, rydych chi'n meddwl pam ddylai unrhyw beth fy stopio i?"

Ffynhonnell y llun, Chwaraeon Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Fran a'i mam, Deb Bashford

Mae'r fam a'r ferch yn treulio amser gyda'i gilydd yn helpu clwb pêl fasged cadair olwyn Celts Caernarfon yn eu tref enedigol yng Ngwynedd.

Dywedodd Deb: "Fe wnes i annog Fran i gymryd rhan, ond fe aeth hi â hynny i'r lefel nesaf.

"Yn ddim ond 19 oed, mae wedi gwneud llawer mwy na fyddwn i wedi gallu'i ddychmygu byth. Mae'n anhygoel. Rydw i mor falch ohoni."

Rhai blynyddoedd yn ôl, dywedodd Fran ei bod wedi "cyrraedd y gwaelod un" yn ei bywyd, ond fe wnaeth gwirfoddoli a chystadlu mewn tenis cadair olwyn ei helpu drwy hynny.

"Doeddwn i ddim yn gwybod be' i wneud efo fy mywyd a dydw i ddim eisiau i bobl eraill deimlo fel roeddwn i ar fy ngwaethaf," meddai.

Yr enillwyr sydd eisoes wedi'u cyhoeddi gan Wobrau Chwaraeon Cymru ydy:

  • Codi Allan, Bod yn Egnïol - Gwobr Cymru Actif 2018

  • Gareth Lanagan - Gwirfoddolwr y Flwyddyn 2018

  • Partneriaeth Awyr Agored - Sefydliad y Flwyddyn 2018

  • Aled Jones-Davies - Hyfforddwr Cymunedol y Flwyddyn 2018

  • Fran Smith - Person Ifanc Ysbrydoledig 2018