Profion iechyd rhyw drwy'r post i atal 'hunllef' clinig
- Cyhoeddwyd
Mae citiau profi am heintiau rhyw yn cael eu cynnig am ddim gan un bwrdd iechyd, er mwyn i gleifion gael eu defnyddio gartref.
Mae bosib i gleifion Bwrdd Iechyd Hywel Dda archebu un o'r citiau ar-lein, ac anfon y swab yn ôl drwy'r post i brofi os oes ganddyn nhw chlamydia neu gonorrhea.
Cafodd y cynllun ei lansio yn dilyn arolwg iechyd rhyw gan Iechyd Cyhoeddus Cymru (ICC) a bydd yn cael ei ystyried i'w ledaenu ar hyd Cymru gyfan.
Dywedodd Maude Agombar, 20 oed, gafodd ei heintio yn y gorffennol gyda chlamydia, y byddai ei ffrindiau sydd ddim yn hoffi mynd at y doctor yn "teimlo mewn gwell rheolaeth o'u hiechyd rhyw".
'Hunllef'
Mae posib prynu profion heintiau rhyw yn barod drwy ffurf breifat, ond dywedodd ICC eu bod nhw'n "ddrud ac yn anodd cael gafael arnyn nhw".
Fe wnaeth Ms Agombar ddarganfod bod ganddi chlamydia ar ôl iddi fynychu clinig oedd yn gweithredu ar ffurf cyntaf i'r felin.
Dywedodd fod y staff yn "hynod ddymunol" ond bod hi'n "hunllef" ceisio cael apwyntiad.
Yn ôl Helen Munro sy'n gweithio fel ymgynghorydd iechyd rhyw gyda Hywel Dda, mae nifer y bobl sy'n mynychu clinigau iechyd rhyw yng Nghymru wedi "bron a dyblu" yn y pum mlynedd diwethaf.
"Does dim modd i ni weld y bobl yma drwy'r amser, pob dydd, felly mae'n ffordd i gleifion allu cymryd y prawf yn eu cartrefi," meddai.
Ychwanegodd Dr Munro fod 'na "elfen o stigma" ynglŷn â mynychu clinig iechyd rhyw, a byddai'r prawf cartref yn "rhoi dewis arall i gleifion".
'Stigma'
Mae modd i bobl sydd eisiau defnyddio'r prawf gael un drwy fynd ar wefan y cynllun ac ateb ambell i gwestiwn i weld os oes angen prawf arnyn nhw mewn gwirionedd.
Bydd y cit wedyn yn cyrraedd mewn amlen arferol drwy'r post, cyn i'r claf gymryd swab a'i anfon i ffwrdd ar gyfer ei ddadansoddi.
Bydd person wedyn yn cysylltu â'r claf gyda'r canlyniadau o fewn pythefnos ac yn cynnig opsiynau am driniaethau os oes angen.
Dywedodd Zoe Couzens o Ymddiriedolaeth Iechyd Cyhoeddus Cymru y byddai'n cael ei gloriannu i weld os yw'r "peth iawn i Gymru', gyda phobl yn cael eu hannog i lenwi arolwg ar-lein.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd3 Hydref 2018
- Cyhoeddwyd1 Medi 2018
- Cyhoeddwyd30 Medi 2017