Pa lyfrau i'r hosan Dolig?

  • Cyhoeddwyd
Llyfrau dan y goeden
Disgrifiad o’r llun,

Dyfalwch pa un o'r llyfrau yma sydd wedi ei enwebu gan bron bawb fel yr anrheg delfrydol?

Beth am roi llyfr da i fwydo meddwl ac enaid eich teulu a'ch ffrindiau dros yr ŵyl, yn lle ychwanegu at y gwastraff plastig a'r geriach diangen?

Mae gwledd o lyfrau Cymraeg newydd wedi eu cyhoeddi yn 2018: dyma rai awgrymiadau gan ambell ddarllenwr amlwg ar gyfer y Nadolig.

Aled Hughes, cyflwynydd Radio Cymru

Llyfr Glas Nebo gan Manon Steffan Ros yw'r llyfr mae Aled Hughes am i bawb ei ddarllen, ond tybed oes unrhyw un ar ôl sydd heb wneud? Ond mae 'na reswm da pam fod 'na lyfr arall yr hoffai Aled ei gael yn ei hosan.

"Gobeithio y bydd Siôn Corn yn ddigon caredig i roi copi o nofel Gwynn ap Gwilym, Sgythia yn fy hosan.

"Dwi wedi clywed sawl un yn canmol y nofel, ac ar ôl i mi ddweud ar y rhaglen nad oedd dim byd difyr i'w ddweud am Mallwyd byth, mi wnaeth mwy nac un fy rhoi yn fy lle a dweud wrtha'i am fynd i ddarllen Sgythia.

"Dwi'n bwriadu gwneud hynny - a ga'i ddiolch i bobl Mallwyd am fod mor barod i fy rhoi ar ben ffordd.

"Petawn i'n gallu mi fyddwn i'n rhoi Llyfr Glas Nebo yn anrheg i bawb sydd heb ei ddarllen. Dwi'n meddwl bod Manon Steffan Ros wedi creu rhywbeth anhygoel. Braf fyddai meddwl y byddai pobl ifanc yn gallu astudio Llyfr Glas Nebo fel rhan o'u cwrs Cymraeg rhywbryd yn y dyfodol agos."

Lowri Cooke, awdur ac adolygydd

Ffynhonnell y llun, Emyr Young

Mae Llyfr Glas Nebo "wir werth yr holl hype" meddai Lowri Cooke ond gan ei bod yn ymddangos fod "pawb yng Nghymru" wedi ei ddarllen yn barod, dyma'i dewis o'r perlau eraill sydd ar gael yn ogystal â'i chyfrol newydd ei hun, Bwytai Cymru, a lansiwyd ddechrau Rhagfyr.

"Dwi'n caru nofelau ditectif, ond dim ond os ydyn nhw'n rhai da, a ges i flas ar Y Düwch gan Jon Gower eleni. Mae'n dilyn llofrudd lluosog o'r enw 'Y Bwystfil' sy'n hela'i brae ar gyrion Port Talbot.

"Am gyfrol dditectif wahanol, galla i'n bendant argymell Y Milwr Coll gan Sion Hughes hefyd, chwip o nofel hanesyddol â chast rhyfeddol o gymeriadau, sy'n ymestyn o'r Rhyfel Byd Cyntaf tan toc cyn yr Ail Ryfel Byd.

"Ar fy rhestr i at Siôn Corn, mae nofel dditectif gyntaf Meleri Wyn James, Blaidd Wrth y Drws, a'r Jo Nesbo newydd sbon, Macbeth.

"Dwi hefyd yn edrych ymlaen i gael fy machau ar Sgythia, gan Gwynn ap Gwilym. Doeddwn i erioed yn meddwl y baswn i'n ysu i ddarllen nofel am hanes John Dafis, Rheithor Mallwyd, ond mae cymaint o ffrindiau a llyfrbryfaid wedi ei argymell i mi eleni, a dwi'n hoff o gael wompyn o nofel i'm cynnal ar hyd y gaeaf!

Ffynhonnell y llun, Siop Inc
Disgrifiad o’r llun,

Nofel hanesyddol am yr ysgolhaig Doctor John Davies, Mallwyd, yw Sgythia gan y diweddar Gwynn ap Gwilym sy'n mynd â bryd Aled Hughes a Lowri Cooke

"Bydda i'n siŵr o brynu copi o Cymru Mewn 100 Gwrthrych gan Andrew Green yn anrheg, a hefyd Blasu gan Elliw Gwawr - mae'r dyluniadau gan Lowri Davies yn hyfryd dros ben.

"Yn olaf, ond nid leiaf, dwi newydd ail-ymweld â chlasur Cymraeg ar gyfer clwb llyfrau dwi'n aelod ohono yng Nghaerdydd. Roedd ymgolli yn Y Stafell Ddirgel gan Marion Eames yn bleser pur, fel darganfod nofel wych o'r newydd."

(Gyda diolch i Emyr Young am y llun o Lowri Cooke)

Matt Spry, tiwtor Cymraeg a Dysgwr y Flwyddyn 2018

Mae Matt Spry wrth ei fodd yn darllen a bellach wedi symud ymlaen i ddarllen nofelau Cymraeg sydd ddim wedi eu hanelu at ddysgwyr, fel gwaith Mihangel Morgan a Dewi Prysor a Rhyddhau'r Cranc gan Malan Wilkinson. Ond mae ganddo ddau ffefryn pendant hyd yma...

"Hoffwn i roi Gwales gan Catrin Dafydd a Llyfr Glas Nebo gan Manon Steffan Ros i rywun fel anrheg Nadolig - dwy o'r nofelau gorau dw i erioed wedi darllen yn Saesneg ac yn Gymraeg.

"Rydw i'n meddwl bod Gwales yn bwysig iawn achos bod y llyfr yn gwneud i chi feddwl am ddyfodol y Gymraeg, dyfodol Cymru, cenedlaetholdeb, chwyldro a hunaniaeth.

"O ran Llyfr Glas Nebo, mae'n gwneud i chi feddwl am gymdeithas a pha fath o gymdeithas yr hoffen ni fyw ynddi, am flaenoriaethau ein hoes a'n ffordd o fyw.

"Dw i'n dod o Loegr a hoffwn i ddysgu mwy am hanes Cymru ond trwy gyfrwng y Gymraeg felly dw i'n mynd i ofyn i Siôn Corn am Hanes Cymru gan John Davies. Bydd darllen y llyfr hwn yn fy helpu i deall mwy am hanes Cymru a datblygu fy Nghymraeg ar yr un pryd."

Dwynwen Berry, perchennog siop lyfrau

Ffynhonnell y llun, Dwynwen Berry

Mae rhedeg siop lyfrau yn job ddelfrydol i rywun sy'n caru darllen ac mae'n debyg bod Dwynwen Berry wedi cael cyfle gwell na'r rhan fwyaf ohonon ni i gael cip ar beth sydd ar y farchnad drwy ei siop Bys a Bawd yn Llanrwst.

"Llyfr dwi'n edrych ymlaen i'w ddarllen dros y gwyliau ydi Siani Flewog gan Ruth Richards - nofel hanes am Ardalydd Môn, y Dancing Marquis - cymeriad hynod ddiddorol a lliwgar!

"Hefyd mae Dan Bwysau wedi cyrraedd, y ddiweddara' o nofelau ditectif John Alwyn Griffiths. Ma' na bobol yn disgwyl yn eiddgar am y ddiweddara o'r gyfres am y Ditecif Jeff Evans.

"Mae dau lyfr ffeithiol dwi eisoes wedi pori ynddynt. Y cyntaf ydi Galwad Cynnar - llyfr swmpus clawr caled yn dathlu chwarter canrif o'r rhaglen radio - ond mae'r lluniau yn y gyfrol yn well na'r radio! Mi fydd 'na rywbeth i apelio i bawb yn hwn - ac mae o'n rhesymol iawn am lyfr gyda diwyg mor dda.

"Dwi hefyd wedi cael golwg ar Bwytai Cymru, Lowri Haf Cooke, gan obeithio y caf fynd i ymweld â rhai o'r bwytai yn ystod y flwyddyn a ddaw."

Siôn Tomos Owen, cyflwynydd, cartwnydd ac awdur

Ffynhonnell y llun, ©philipwarrenphotography

Dydi dewisiadau Siôn Tomos Owen, i lenwi hosanau Dolig y genedl ddim yn straeon pleserus ond "maen nhw bendant yn rhai o'n i ffili rhoi lawr a rhai o'n i'n cheesed off yn cwpla," meddai. Ei ddewis cyntaf yw, syrpreis syrpreis, Llyfr Glas Nebo a ddarllenodd ar wyliau mewn carafán yn y Gŵyr fis Awst.

"Yn y garafán does dim signal ffôn, 4G na'r we, 'mond sŵn y tonnau'n lapio, defaid yn brefu a'r gwynt yn chwipio ambell awning.

"Efallai byse rhai'n dweud nid y lle gorau i ddarllen nofel am Gymru ôl-apocalyptaidd ond roedd yn, oherwydd cafodd effaith mawr arna'i. Gwples i o fewn diwrnod ac yna steddais yn dawel am gyfnod yn synfyfyrio'r pyncie dwys wedi dweud mewn ffordd syml ond wedi mesur yn berffaith a'r amseru perthnasol i ni fel cenedl.

"Anrheg hanfodol i unrhyw ddarllenwr - dylai Llywodraeth Cymru noddi copi i bob Cymro a Chymraes allan o'r arian roddwyd i basio adeiladu Wylfa B.

"Fy ail lyfr yw Pyrth Uffern gan Llwyd Owen. Fel Llyfr Glas Nebo mae nofel dditectif Llwyd yn archwilio pynciau dwys ac mae'r naratif yn un diddorol sy'n archwilio cyn ac ar ôl chwalfa nerfol y prif gymeriad, DS Rolant Price - dim ond rhan o'r gwe sy'n cael ei weu gan droseddwr sy'n herwgipio ac yn treisio merched ifanc.

"Roedd y nofel yn anodd i'w rhoi i lawr ond hefyd ar adegau'n anodd i'w hagor oherwydd y digwyddiadau afiach a wnaeth roi ambell i hunllef i mi fel tad i ferch.

"Fy newisiadau olaf yw dwy gyfrol o farddoniaeth, Ar Ddisberod gan Grug Muse ac Ar Adain gan Iestyn Tyne. Roedd teithio'r byd trwy'r cerddi byr hyfryd yma yn chwa o awyr iach i mi fel rhywun sydd heb ddarllen llawer o farddoniaeth Gymraeg ers fy nyddiau coleg.

"Mae'r ddau fardd yn rhan o dîm golygyddol cylchgrawn Y Stamp lle cyhoeddais ddau o'r cerddi cyntaf i mi eu sgwennu yn y Gymraeg am dros ddegawd, trwy ysbrydolaeth y ddwy gyfrol yma. Os ydych am wledd o farddoniaeth, celf, rhyddiaith, ffotograffiaeth a mwy, bysen i'n awgrymu tanysgrifiad i Y Stamp am yr hosan Nadolig hefyd."

Mari Lovgreen, actores, cyflwynydd ac awdur

Yn ogystal ag actio a chyflwyno, mae Mari Lovgreen wedi sgrifennu ac addasu llyfrau i blant. Fel rhiant, mae'r amser i ddarllen yn gallu bod yn brin, ond mae Mari wedi cael amser i sgrifennu llyfr am y profiad o fod yn fam ac mae ganddi ambell beth ar ei rhestr dymuniadau.

"Efo'r Nadolig yn dod, dwi am gymryd y cyfle am shameless plug i atgoffa pobl o'r gyfrol Brên Babi! Hanesion a theimladau gonest fi a fy ffrindiau am y profiad o ddod yn fam am y tro cyntaf.

"Presant delfrydol i rieni newydd, merch feichiog, neu unrhyw un sydd eisiau deall yn well sut beth ydi bod yn berchen ar Frên Babi.

"Yn fy hosan fyswn i'n licio gweld unrhyw beth gan Llwyd Owen neu Myfanwy Alexander. Dwi wedi bod eisiau darllen eu nofelau nhw ers sbel, ond heb ffeindio'r amser.

"O ran anrheg i rywun arall fyswn i'n bendant yn dewis rhoi Llyfr Glas Nebo gan Manon Steffan Ros - llyfr mor ddarllenadwy efo calon anferthol. Fyswn i'n herio unrhyw un i beidio cael eu cyffwrdd gan y nofel fer yma."

Hefyd o ddiddordeb:

Y gorau o Gymru ar flaenau dy fysedd

Lawrlwytha ap BBC Cymru Fyw