Ateb y Galw: Yr actores Lisa Victoria
- Cyhoeddwyd
Yr actores Lisa Victoria sy'n Ateb y Galw yr wythnos yma wedi iddi gael ei henwebu gan Aneirin Hughes yr wythnos diwethaf.
Beth ydi dy atgof cyntaf?
Cwmpo yn yr ardd a colli fy nau ddant frynt a wedyn fy mrawd yn gneud sbort am fy mhen ac yn galw fi'n Dracula... am fisoedd!
Pwy oeddet ti'n ei ffansio pan yn iau?
John Travolta a Huw Chiswell. Fi heb gwrdda John Travolta'n anffodus, ond wedi gwithio erbyn hyn gyda Huw Chiswell!
Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya' o gywilydd arnat ti erioed?
Gofyn i Mam weud celwydd drosta i dro ar ôl tro i ffrindie oedd yn galw amdana i i fynd mas i whare... odd well gyda fi bod wrth fy hunan!
Pryd oedd y tro diwethaf i ti grïo?
W'thnos nôl yn eistedd yn theatr y Ryman yn Nashville yn gwrando ar gerddoriaeth gwlad ac yn dymuno bo' Dad dal yn fyw ac yna gyda fi i brofi'r peth.
Oes gen ti unrhyw arferion drwg?
Cnoi'r croen o gwmpas fy ngwinedd. Dwi 'di 'neud ers yn blentyn ac er bo' fi'n well nag o'n i, os dwi'n nerfys, y bysedd sy'n ei cha'l hi!
Dy hoff le yng Nghymru a pham?
Bae Langland, Y Gwŷr. Atgofion melys o fynd yna gyda Mam a Dad am bicnic pan o'n i'n blentyn a nawr cerdded am filltiroedd gyda'r gŵr ar hyd yr arfordir cyn mwynhau cinio yn y Langland Brasserie.
Y noson orau i ti ei chael erioed?
Gwylio hen ffrind ysgol i fi, Daniel Evans, yn perfformio ar Broadway yn Efrog Newydd yn Sunday in the park with George. Waw... o'n i MOR browd!
Disgrifia dy hun mewn tri gair
Taclus, breuddwydiwr, preifat.
Beth yw dy hoff lyfr neu ffilm?
Anne of Green Gables. Nes i fwynhau'r ddrama ar y teledu gymaint yn blentyn, brynes i'r llyfr. Dwli ar y ffaith bod Anne yn ferch mor gryf a stwbwrn er gyda chalon anferth a ddim yn gadel unrhywbeth ei rhwystro.
Byw neu farw, gyda phwy fyddet ti'n cael diod. Pam?
Dwi ddim yn yfwr mawr ond licen i lased fach o siampên gyda Audrey Hepburn.
Dyweda rywbeth amdanat ti dy hun nad oes yna lawer o bobl yn ei wybod.
Dwi wedi hyfforddi fel athrawes Pilates.
Ar dy ddiwrnod olaf ar y blaned, beth fyddet ti'n ei wneud?
Os bydde fe'n bosib... dawnsio'r Argentine Tango ar Strictly a cha'l pedwar 10!
O archif Ateb y Galw:
Beth yw dy hoff gân a pham?
Sweet Caroline gan Neil Diamond. Hoff gân Dad.
Cwrs cyntaf, prif gwrs a phwdin - beth fyddai'r dewis?
Cwrs cyntaf: Scalops neu squid neu moules
Prif gwrs: Seabass
Pwdin: Tarten afal Nain, ond dyw hwnna ddim yn bosib bellach yn anffodus, felly a' i am tarte tatin.
Petaset yn gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai fo/hi?
Ginger Rogers i gal dawnsio gyda Fred Astaire! (Wedes i bo' fi'n freuddwydiwr!)
Pwy sydd yn Ateb y Galw yr wythnos nesaf?
Bethan Ellis Owen