Cymru yw'r unig ran o'r DU i weld cwymp yn nifer myfyrwyr

  • Cyhoeddwyd
GwerslyfrauFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae nifer y myfyrwyr sydd wedi cael eu derbyn i astudio cyrsiau ym mhrifysgolion Cymru wedi disgyn 5.7%, yn ôl ffigyrau UCAS.

Cymru yw'r unig ran o'r DU sydd wedi gweld gostyngiad mewn niferoedd i gymharu â 2017.

Mae'r ffigyrau yn cynnwys cwymp o 20.8% yn nifer y myfyrwyr o'r UE gafodd eu derbyn ar y cyrsiau.

Dim ond myfyrwyr llawn amser sydd wedi cael eu cynnwys, ac nid yw myfyrwyr rhan amser neu ôl-raddedigion yn rhan o'r ffigyrau.

Yn ogystal â'r cwymp yn nifer y derbyniadau o'r UE, roedd cwymp o 6.5% yn nifer y myfyrwyr rhyngwladol o du allan i'r UE oedd yn dechrau cyrsiau yng Nghymru.

Mae'r Ysgrifennydd Addysg, Kirsty Williams, wedi dweud yn y gorffennol ei bod hi'n "anochel" y byddai newidiadau ym mholisïau cyllid myfyrwyr yn effeithio ar allu prifysgolion Cymru i atynnu myfyrwyr Ewropeaidd.

Roedd y grant ffioedd dysgu, gafodd ei waredu fel rhan o ddiwygiadau mawr i'r system cyllid myfyrwyr, hefyd ar gael i fyfyrwyr o'r UE.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Kirsty Williams ei bod hi'n "anochel" y byddai newidiadau i gyllid myfyrwyr yn cael effaith ar brifysgolion

Gwelwyd cwymp sylweddol hefyd yn nifer y bobl ifanc sydd yn ceisio am le mewn prifysgol yng Nghymru dros y ddwy flynedd diwethaf, ond yn ôl UCAS, dim ond eleni mae hynny yn cyd-fynd â chwymp yn nifer y derbyniadau.

Fe geisiodd 71,455 o bobl am le yn o leiaf un o brifysgolion Cymru eleni, cwymp o 6.3% i gymharu â 2017, a 6.2% yn is na'r flwyddyn flaenorol.

Ymgeiswyr o Gymru yw'r mwyaf tebygol i astudio tu allan i'w mamwlad yn ôl y ffigyrau, gyda dros 40% yn mynychu sefydliadau addysgol mewn rhannau eraill o'r DU.

Dywedodd UCAS bod hyn yn wahanol i'r sefyllfa yn yr Alban a Gogledd Iwerddon lle mae yna gymhelliant ariannol i astudio yno.

'System flaengar'

Wrth ymateb i ffigyrau UCAS, dywedodd llefarydd ar ran prifysgolion Cymru: "Mae'r ffigyrau diweddar... yn amlygu nifer o sialensiau posib, gan gynnwys newid mewn demograffig a'r cwymp yn nifer pobl 18 oed yng Nghymru.

"Er gwaetha'r cwymp, mae'r gyfran o bobl 18 oed yng Nghymru sy'n dewis mynd i'r brifysgol yn uwch nag erioed.

"Mae ffigyrau cynnar gan y Students Loan Company yn awgrymu cynnydd sylweddol yn nifer y myfyrwyr rhan-amser yng Nghymru, rhywbeth na sydd yn cael ei gynnwys yn y data."

Ychwanegodd: "Rydyn ni'n falch o fod yn rhan o system flaengar sy'n cynnig cyfleoedd i bobl o bob cefndir i astudio."