Cyngor Wrecsam i wahardd defnydd o Google Translate

  • Cyhoeddwyd
Cyngor WrecsamFfynhonnell y llun, Google

Mae staff Cyngor Wrecsam wedi cael eu cynghori i beidio â defnyddio gwasanaeth Google wrth gyfieithu, yn dilyn cwynion am safonau iaith.

Mae rhai wedi galw ar yr awdurdod lleol i ddychwelyd gwasanaeth gyfieithu i reolaeth y cyngor yn dilyn pryderon nad ydynt yn cyd-fynd â safonau iaith.

Fe wnaeth Comisiynydd y Gymraeg feirniadu'r cyngor yn ddiweddar ar ôl derbyn 14 cwyn am arwyddion Cymraeg gwallus.

Yn gynharach eleni, fe wnaeth Cyngor Wrecsam ymddiheuro'n gyhoeddus ar ôl i adroddiad gan yr Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus eu cyhuddo o ddangos "ddiffyg parch" tuag at y Gymraeg.

Yn ôl cynghorydd Plaid Cymru, Gwenfair Jones, cafodd e-bost ei yrru i staff y cyngor yn eu hannog i beidio â defnyddio gwasanaeth Google Translate.

Mewn cyfarfod ddydd Mercher, dywedodd Ms Jones: "Dwi'n meddwl eu bod nhw'n defnyddio Google Translate ac wedyn bod hwnnw ddim yn cyfieithu yn gywir.

"Mae'n gallu bod yn andros o rwystredig i bobl fel fi sy'n darllen drwy gyfrwng y Gymraeg, a dydi hynny ddim yn iawn.

"Cafodd hyn ei drafod mis diwethaf, ac fe wnaethon ni amlygu rhai argymhellion gan gynnwys dod a gwasanaeth gyfieithu yn ôl i'r cyngor, a dwi'n credu mai dyma fyddai'r ffordd orau i fynd yn ein blaenau."

Cost 'sylweddol'

Mewn ymateb i sylwadau Ms Jones, dywedodd y cynghorydd David Kelly fod mwyafrif helaeth y gwaith cyfieithu yn gywir.

"Mae dyletswydd statudol gennym ni i gyfieithu, ac rydyn ni'n gorfod gwneud hynny drwy ddarparwyr allanol - sydd yn awdurdod lleol arall - ac mae'n rhaid i ni dalu swm sylweddol am y gwasanaeth hwn.

"Mae rhai o'n staff mewnol hefyd yn gwneud rhywfaint o'r gwaith a dwi ddim yn credu eu bod nhw'n euog o ddefnyddio Google, ond mewn rhai adrannau mae achosion wedi bod lle mae angen cael cyfieithiad sydyn, a dyna pryd mae camgymeriadau'n gallu cael ei gwneud."

Ychwanegodd arweinydd y cyngor, Mark Pritchard, fod angen delio â'r mater a'u bod nhw "yn gorfod llwyddo yn y maes, heb os nac oni bai".