'Angen' i Wrecsam fod yn ddinas er mwyn tyfu
- Cyhoeddwyd

Mae arweinydd y cyngor yn dweud bod angen i'r cyngor barhau i fuddsoddi yn yr isadeiledd lleol
Mae angen i Wrecsam gael ei henwi'n ddinas er mwyn gwireddu ei photensial, yn ôl prif weithredwr newydd y cyngor.
Yn ôl Ian Bancroft, sydd wedi bod yn brif weithredwr ar Gyngor Wrecsam ers mis Medi, mae angen i'r dref barhau'n uchelgeisiol, er gwaethaf heriau ariannol.
Mae'r awdurdod lleol yn wynebu toriadau o £18m yn ystod y ddwy flynedd nesaf.
Ond, dywedodd Mr Bancroft ei fod yn credu bod gan y dref o 130,000 yr hyn sydd ei angen i fod yn ddinas, er iddi golli'r teitl i Lanelwy yn 2012.
Pob sefydliad yno'n barod
Derbyniodd Llanelwy - sydd â phoblogaeth o 3,400 - statws dinas fel rhan o ddathliadau Jiwbilî Diemwnt y Frenhines.
"Fel arfer, mae'n digwydd pan fydd rhyw ddigwyddiad brenhinol mawr," dywedodd Mr Bancroft.
"Ond y gwir amdani yw, mae angen i ni gael ein gweld fel dinas cyn i hynny ddigwydd eto."
Ychwanegodd Mr Bancroft: "Os edrychwch chi ar ddinas, mae yna glwb pêl-droed, mae yna brifysgol, mae yna garchar.
"Mae gennym ni bob un o'r sefydliadau hynny sy'n creu dinas, felly mae angen i ni fod yn ddinas."

Mae'r uned lle fu BHS yn Sgwâr Henblas yn dal i fod yn wag
Dywedodd arweinydd y cyngor, Mark Pritchard, fod angen i'r cyngor barhau i fuddsoddi yn yr isadeiledd lleol wrth edrych i'r dyfodol.
Tynnodd sylw at gymeradwyo 50 o fflatiau uwchben siopau ar Sgwâr Henblas fel esiampl o sut all busnesau canol y dref ffynnu.
Roedd unedau mawr y ganolfan siopa wedi bod yn wag ers i BHS a siopau mawr eraill gau.
Fodd bynnag, mae cynlluniau hefyd ar waith i ddenu busnesau newydd i'r ganolfan.
"Mae 'na waith adnewyddu ar y gweill yn Wrecsam, dwi'n grediniol o hynny," meddai Mr Pritchard.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd20 Tachwedd 2018
- Cyhoeddwyd6 Medi 2018
- Cyhoeddwyd12 Ebrill 2016