Dyfarnu statws trysor i wrthrychau Oes Efydd o Abertawe

  • Cyhoeddwyd
Celc Oes Efydd ardal MawrFfynhonnell y llun, Amgueddfa Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Roedd celc Oes Efydd o ardal Mawr ymhlith y darganfyddiadau hynaf

Mae nifer o wrthrychau a gafodd eu darganfod mewn gwahanol rannau o Abertawe gan aelodau o'r cyhoedd wedi eu dyfarnu yn ddarnau o drysor.

Yn eu plith mae darnau o fwyell yn ogystal â phalstaf a chleddyf main, gafodd eu ar dir fferm yn ardal Mawr, sy'n dyddio nôl bron i 3,000 o flynyddoedd.

Mae creiriau gan gynnwys broetsh o'r Oesoedd Canol a modrwyau o'r 16eg a 17eg Ganrif hefyd wedi eu darganfod.

Fe wnaeth y crwner Colin Phillips ddyfarnu eu bod oll yn drysorau, ac fe fyddan nhw'n cael eu harddangos yn y pen draw yn Amgueddfa Abertawe.

Ffynhonnell y llun, Amgueddfa Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Broetsh arian canoloesol a dwy fodrwy a ddaeth i'r fei yn Sgeti

Manylion y darganfyddiadau:

  • Pum gwrthrych o'r Oes Efydd gan gynnwys darnau o fwyell socedog, palstaf a chleddyf main, yn ogystal â dwy ffroenell fwrw, y cyfan wedi'u gwneud o efydd;

  • Broetsh arian canoloesol a dwy fodrwy blaen wedi'u gwneud o aloi plwm-tun sy'n dyddio o'r 13eg neu'r 14eg ganrif;

  • Modrwy arian addurnol o'r 16eg ganrif;

  • Modrwy bwysi (posy) aur o'r 17eg ganrif.

Ffynhonnell y llun, Amgueddfa Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Yn ardal Penlle'r-gaer y daeth y fodrwy arian o'r 16eg Ganrif i'r fei

Dywedodd Dr Mark Redknap, Pennaeth Casgliadau ac Ymchwil Amgueddfa Cymru, bod y broetsh a'r modrwyau "yn dystiolaeth bwysig sy'n rhoi gwybodaeth i ni am gylchrediad ffasiynau gemwaith canoloesol a diweddarach o gwmpas Cymru".

Roedd yr unigolion a ddaeth o hyd i'r gwrthrychau wedi cysylltu yn y lle cyntaf gyda threfnwyr Cynllun Henebion Cludadwy Cymru (PAS Cymru) - proses o gofnodi a chyhoeddi canfyddiadau archeolegol gan aelodau'r cyhoedd.

Byddan nhw nawr yn cael eu prynu gan Amgueddfa Abertawe, yn dilyn prisiad annibynnol.

Ffynhonnell y llun, Amgueddfa Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r arysgrif 'I WISH IT BETTER' tu fewn i'r fodrwy bwysi aur o'r 17eg Ganrif

Mae'r prosiect hwnnw'n rhan o Gronfa'r Loteri Genedlaethol ac yn helpu amgueddfeydd lleol a chenedlaethol yng Nghymru i brynu arteffactau, boed yn drysor ai peidio.

Dywedodd Emma Williams o Amgueddfa Abertawe eu bod yn "falch iawn o allu caffael yr eitemau gwych hyn ar gyfer casgliadau Amgueddfa Abertawe".

"Byddant yn rhoi darlun cliriach i ni o fywydau hen drigolion Abertawe a'r cylch, ac edrychwn ymlaen at eu harddangos i bawb sy'n byw yma heddiw."