Cyngor yn cynnig symud gwaith Banksy 'i'w ddiogelu'
- Cyhoeddwyd
Fe allai gwaith celf gan yr arlunydd Banksy sydd ar ochr garej ym Mhort Talbot gael ei symud er mwyn ei ddiogelu, yn ôl y cyngor sir.
Mae swyddogion Cyngor Castell-nedd Port Talbot wedi dweud y byddai'r awdurdod yn talu am "fenthyg" y graffiti i'r cyhoedd "yn barhaol".
Mae perchennog y garej, Ian Lewis wedi dweud ei fod yn ystyried sawl cynnig ac y byddai'n cwrdd â phobl sydd â diddordeb yn fuan.
Mae'r cyngor wedi dweud mai Mr Lewis sydd berchen y gwaith celf, a'u bod eisoes wedi gwneud cynnig iddo.
Dywedodd un o'r swyddogion: "Byddai'r cyngor yn symud, storio ac yn ei adleoli i safle sydd eto i'w benderfynu yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus.
"Rydym wedi argymell talu am y gost yn llawn, gan gynnwys adeiladu garej arall yr un fath - ond mae Mr Lewis wedi gwrthod cyfarfod i drafod y mater ymhellach."
Yn ôl Mr Lewis, ers i'r gwaith celf ymddangos ym mis Rhagfyr mae hi wedi bod yn gyfnod "hynod, hynod o anodd, ac yn hynod swrrealaidd".
Dywedodd wrth BBC Cymru ei fod yn ei gweld hi'n anodd ymdopi gyda'r miloedd o bobl sy'n dod i edrych ar y gwaith yn ddyddiol.
"Mae'r cyfan wedi bod yn ormod. I ddweud y gwir rwy'n rhedeg atyniad gelf ar fy mhen fy hun," meddai.
Mae'r cyngor wedi dweud eu bod yn deall fod y perchennog eisiau mynd ar ôl opsiynau eraill ar gyfer y darn Banksy, ond mae drysau'r awdurdod "yn parhau'n agored" os yw'n newid ei feddwl.
"Nid ein heiddo ni yw e ac mae dyfodol y gwaith celf a'r effaith ar y bobl leol yn nwylo'r perchennog garej," meddai'r swyddog.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd7 Ionawr 2019
- Cyhoeddwyd7 Ionawr 2019
- Cyhoeddwyd19 Rhagfyr 2018