Cwest Hwlffordd: Trafferth dal 'dyn mawr'

  • Cyhoeddwyd
Meirion JamesFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Bu farw Meirion James yn y ddalfa yn Hwlffordd

Bu'n rhaid i heddweision frwydro i atal "dyn mawr" rhag ceisio rhuthro allan o'i gell, yn ôl tystiolaeth un sarjant mewn cwest i farwolaeth yn nalfa Hwlffordd.

Cafodd fideo Camera Cylch Cyfyng o Meirion James, 53 oed o Grymych, yn cael ei ddal gan swyddogion yng ngorsaf Hwlffordd, ei ddangos i'r cwest.

Cafodd ei arestio ar 31 Ionawr 2015 am ymosod ar ei fam.

Roedd y cyn-athro wedi dioddef o iselder manig ers 30 mlynedd, ac roedd wedi newid ei feddyginiaethau yn ystod y misoedd cyn iddo gael ei arestio.

Disgrifiodd Sarjant Mark Murray o Heddlu Dyfed-Powys sut y gyrhaeddodd ei waith yng ngorsaf heddlu Hwlffordd y bore hwnnw am 07:00, pan oedd Mr James eisoes yn y ddalfa.

Roedd rhywun yn cadw golwg ar Meirion James bob hanner awr, ac roedd yn mynd i gael ei gyfweld.

Ond dywedodd Sarjant Murray wrth y cwest nad oedd Mr James yn cael ei ystyried yn risg i'w hun wedi iddo gael asesiad gan feddyg.

'Cicio'n wyllt'

Am ei fod yn ymwybodol bod Mr James wedi bod yn effro drwy'r nos, roedd yn awyddus i "roi amser iddo orffwys cyn cael ei gyfweld".

Dywedodd yr heddwas wrth y cwest nad oedd yn gallu cofio bod yn ymwybodol o newidiadau yn ymddygiad na thymer Mr James, ag eithrio'i fod yn cicio drws ei gell - sy'n ymddygiad digon cyffredin.

Ond clywodd ei gyd-weithiwr yn galw am help, a rhedodd lawr y coridor i ddarganfod Mr James "ar y llawr, ar ei ben ôl, yn cicio'n wyllt at ddau swyddog oedd yn brwydro am reolaeth".

Disgrifiodd Sarjant Murray sut aeth ef a swyddogion eraill i drio dal Mr James, a oedd "yn ddyn mawr iawn", yn y coridor tu allan i'w gell.

Ffynhonnell y llun, Heddlu Dyfed-Powys
Disgrifiad o’r llun,

Dangoswyd fideo CCTV o Meirion James yn ceisio rhuthro allan o'i gell

"Roedd yn ceisio fy mwrw i a cheisio fy mrathu, felly roeddwn yn ceisio gwthio'i ben i ffwrdd," meddai.

Cofiodd Sarjant Murray iddo geisio gwthio pen Mr James i lawr gyda'i ddwylo, gan roi ei goes dros ei frest, a rhoi un droed ar ei benelin wrth i Mr James geisio brwydro, a thra bod swyddogion eraill yn ceisio rhoi cyffion amdano.

Credodd i Mr James droi ei hun i orwedd ar ei ochr, ac ni allai gofio Mr James yn gorwedd ar ei fol.

Clywodd cyd-weithiwr iddo yn gweiddi "Gas!" - sef arwydd gan swyddogion bod chwistrell Pava ar fin cael ei ddefnyddio.

Roedd Sarjant Murray yn ymwybodol y byddai'n cael ei effeithio gan y chwistrell, gan fod "pawb yn cael eu heffeithio ganddo".

Gweld gwaed

Dywedodd Sarjant Murray iddo ddrysu a cholli syniad o ble oedd Mr James yn yr ystafell.

Pan welodd yr heddwas waed, dywedodd iddo feddwl i Mr James dorri ei wyneb.

Ond yna sylwodd bod y gwaed yn dywyll iawn, a'i fod yn dod o geg Mr James.

Dywedodd iddo weld y lliw yn wyneb Mr James yn newid, gan wybod ei fod wedi marw.

Cafodd ambiwlans ei alw.

Tynnu ei wallt ei hun

Cyfaddefodd Sarjant Murray y dylai fod yn gwybod bod Meirion James wedi cael ei weld yn tynnu ei wallt ei hun, a'i fod wedi dweud wrth swyddogion bod stopio cymryd lithium wedi ei wneud "ddim yn iawn yn ei ben".

Dywedodd y sarjant ei fod wedi wedi colli'r cyfarfod trosglwyddo pan ddechreuodd ei shifft.

Dywedodd ei fod yn ymwybodol fod gan Mr James broblemau iechyd meddwl, ei fod wedi bod mewn gwrthdrawiad ac wedi bod i Ysbyty Bronglais.

Ond dywedodd nad oedd yn ymwybodol fod ganddo anhwylder deubegynol na chwaith i heddlu yn Aberystwyth ddelio ag e'r diwrnod cynt, na chwaith iddo gael ei arestio dan y Ddeddf Iechyd Meddwl.

Clywodd y cwest i Sarjant Murray newid lefel goruchwyliaeth Mr James o lefel 4 - sef cael ei fonitro ar sgrin a chael swyddog yn eistedd tu allan i'r gell - i lefel 1 - sef mynd i'r gell ato unwaith yr awr.

Yn cynrychioli'r teulu, gofynnodd Mr Rajiv Menon i Sarjant Murray: "Disgrifiodd PC Hart ei ymddygiad fel "afreolus" a "gwyllt"... Gwelodd PC Hart e'n tynnu clympiau o'i wallt ei hun o'i ben. Onid yw hynny'n hunan anafu?"

Cyfaddefodd Sarjant Murray ei fod e, a dylai fod wedi gwybod hynny, ond nid oedd yn ymwybodol o unrhyw newid drastig yn hwyliau Mr James.

Asesiad meddygol

Dywedodd Dr June Picton wrth y cwest ei bod wedi cynnal archwiliad meddygol ar Mr James yn yr orsaf tua 07:15, ac nid oedd yn gallu gweld unrhyw arwydd ei fod yn sâl yn feddyliol ar y pryd.

Cynghorodd swyddogion ei fod yn ddigon iach i gael ei ddal a'i gyhuddo.

Ticiodd flwch yn argymell i "oedolyn priodol" gael eistedd gyda Mr James wrth gael ei gyfweld, ond cyfaddefodd Sarjant Murray nad oedd wedi gweld yr argymhelliad. Ni chafodd oedolyn priodol ei alw.

Ffynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd archwiliad meddygol Dr Picton gyda Mr James ei wneud am 07:15 yng ngorsaf Hwlffordd

Gofynnwyd i Dr Picton a fyddai gwybod bod Mr James wedi cael ei arestio dan Ddeddf Iechyd Meddwl wedi gwneud gwahaniaeth wrth ei drin.

Cytunodd y byddai wedi cael effaith ar y lefel o oruchwyliaeth dros Mr James, a fyddai yn ei dro wedi cael effaith ar ddigwyddiadau'r dydd.

Gwadodd Dr Picton ei bod yn ymwybodol fod Mr James wedi cael ei weld yn tynnu ei wallt ei hun. Dywedodd y byddai hyn yn sicr wedi bod o bryder iddi, petai'n gwybod.

Mae'r cwest yn parhau.