Athrawon Ysgol Uwchradd Aberteifi yn streicio

  • Cyhoeddwyd
Picedi
Disgrifiad o’r llun,

Mae aelodau'r undeb wedi bod yn cynnal piced y tu allan i'r ysgol ers 07:00 fore Mawrth.

Mae rhai o athrawon Ysgol Uwchradd Aberteifi sy'n aelodau o undeb NASUWT wedi dechrau streicio.

Yn ôl yr undeb, dyma'r streic undydd gyntaf mewn cyfres o chwech o ddiwrnodau dros gyfnod o bedair wythnos, oni bai y daw cytundeb yn y cyfamser.

Maen nhw'n gweithredu oherwydd yr hyn y mae'r undeb wedi ei ddisgrifio'n "arferion rheoli andwyol... sydd wedi creu hinsawdd o ofn" yn yr ysgol.

Mewn datganiad, fe ddywedodd Cyngor Sir Ceredigion eu bod nhw wedi cynnal "cyfarfod adeiladol" gyda NASUWT ac yn "dymuno parhau i gyd-drafod er mwyn datrys y materion a godwyd".

Dywedodd yr undeb eu bod yn parhau i drafod gyda'r cyngor sir ond fod rhagor o weithredu yn bosib.

"Mi fyddwn ni'n cwrdd eto â'r cyngor naill ai ddiwedd yr wythnos hon neu ddechrau'r nesaf," meddai Geraint Davies, swyddog gyda NASUWT Cymru.

"Petai ni ddim yn cael llwyddiant gyda'r trafodaethau hynny, yna mi fyddwn ni'n streicio eto am ddeuddydd mewn pythefnos."

Disgrifiad o’r llun,

Pleidleisiodd 65% o aelodau undeb NASUWT yr ysgol o blaid streicio

Ar 21 Rhagfyr, fe bleidleisiodd mwyafrif aelodau undeb NASUWT yr ysgol o blaid streicio.

Roedd 65% o'r aelodau o blaid y cynnig, gyda naw o athrawon yn pleidleisio yn erbyn.

'Ofni mynd i'r gwaith'

Ddechrau'r mis, fe siaradodd dau gyn-athro Ysgol Uwchradd Aberteifi yn gyhoeddus am eu profiadau.

Dywedodd y ddau wrth BBC Cymru eu bod wedi profi awyrgylch o ofn tra'n dysgu yno.

Yn ôl un, roedd yn teimlo iddo gael ei danseilio gan arferion rheoli, tra bo'r athro arall wedi dweud ei fod yn ofni mynd i'r gwaith pan oedd yn gweithio yno oherwydd y pwysau.

Fe adawodd Guy Manning ei swydd fel athro celf yn yr ysgol ym mis Rhagfyr, gan ddweud fod pwysau annheg ar athrawon yn yr ysgol.

Cafodd ymchwiliad annibynnol ei gomisiynu gan Gyngor Ceredigion ar ôl iddyn nhw dderbyn cwynion gan dri chyn-aelod o staff yn ogystal â rhai athrawon presennol.

Yn ôl y cyngor, mae 25 o bobl wedi cael eu holi fel rhan o'r ymchwiliad, sy'n cynnwys aelodau o staff sydd heb wneud cwynion.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Guy Manning, a fu'n athro celf yn yr ysgol, fod pwysau annheg ar staff

Dywedodd yr awdurdod rai wythnosau yn ôl y bydd yr ymchwiliad yn edrych ar gwynion ynglŷn ag arweinyddiaeth yr ysgol a honiadau o fwlio, ond hefyd yn ystyried a oedd bwriad gan gyn-athrawon a rhai presennol i fwlio aelodau o'r uwch dîm rheoli, ac a ydy'r gweithredoedd hyn yn groes i safonau'r Cyngor Gweithlu Addysg.

Mewn ymateb i hynny, dywedodd undeb NASUWT fod datganiad y cyngor yn un "rhyfeddol" ac yn "ymgais gan y cyngor, mae hi'n ymddangos, i fygwth staff sydd wedi dangos y dewrder i godi pryderon".

Mae'r cyngor yn pwysleisio fod safonau yn Ysgol Uwchradd Aberteifi wedi gwella'n sylweddol yn y blynyddoedd diwethaf a hynny oherwydd "ymdrechion a gwaith caled y staff, llywodraethwyr a disgyblion".

Ysgol yn aros ar agor

Mae BBC Cymru ar ddeall fod cyfarfod wedi cael ei gynnal rhwng rhai o uwch swyddogion y cyngor â'r undeb yr wythnos ddiwethaf ond nad oedd yn ddatrysiad i'r anghydfod presennol.

Disgwylir i'r ymchwiliad annibynnol a gomisiynwyd gan y cyngor gael ei gwblhau erbyn diwedd mis Ionawr.

Dywedodd y cyngor y bydd yr ysgol yn parhau ar agor i'r holl ddisgyblion gyda rhaglen lawn o wersi er gwaethaf y streicio.