AS yn cynnig deddf i daclo 'twll du' bancio gwledig

  • Cyhoeddwyd
Ben Lake
Disgrifiad o’r llun,

Bydd Ben Lake yn cyflwyno ei ddeddf arfaethedig yn San Steffan ddydd Mawrth

Mae AS Plaid Cymru wedi cynnig newidiadau cyfreithiol i sicrhau nad yw pobl yn colli mynediad at wasanaethau ariannol sylfaenol pan mae banciau'n cau.

Mae Ben Lake eisiau gweld banciau'n rhannu cyfleusterau a'i gwneud hi'n anoddach i gau canghennau.

Dywedodd AS Ceredigion fod y banciau sy'n cau yn gadael cymunedau gwledig mewn "twll du ariannol".

Ym mis Rhagfyr, fe gyhoeddodd RBS eu bod yn cau 20 o ganghennau NatWest yng Nghymru wrth i fwy o bobl fancio ar-lein.

Fe fyddai mesur Mr Lake yn gorfodi banciau oedd eisiau cau canghennau i ystyried pa mor hir y byddai'n cymryd i gwsmeriaid deithio i'w cangen agosaf nesaf, yn hytrach na dim ond y pellter.

Galwodd hefyd am fwy o gyllid llywodraeth er mwyn galluogi swyddfeydd post i wella'u gwasanaethau ariannol.

"Gyda'r agwedd driphlyg a amlinellir yn y Mesur, gallwn wneud yn siŵr na all banciau ddiflannu dros nos, a lle nad oes banc yno eisoes, y gall cwsmeriaid gyrchu'r gwasanaethau bancio y maen nhw eu hangen yn haws drwy Swyddfa'r Post," meddai.

"Er mwyn mynd i'r afael â'r heriau hyn, ac i ysbrydoli cydweithio rhwng banciau, byddai'r bil hwn yn annog creu fforymau rhanbarthol a fyddai'n arwain y ffordd i fanciau drafod ffyrdd o gydweithio er mwyn cynnal eu presenoldeb mewn cymunedau," ychwanegodd.

Mae'r bil yn annhebygol o gael ei gymeradwyo heb gefnogaeth y llywodraeth oherwydd diffyg amser seneddol.